Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol chi ar gyfer prosesu a gweinyddu cynlluniau Buddion Staff RhCT.
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion gweinyddu a phrosesu Cynlluniau Buddion Staff RhCT. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma ar y cyd â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor. Hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud.
Caiff cynlluniau Buddion Staff RhCT eu gweinyddu gan Garfan Datblygu'r Gweithlu sy'n rhan o'r Adran Adnoddau Dynol. Mae modd i holl staff RhCT fanteisio ar becyn buddion yn rhan o'u contractau cyflogaeth.
Mae RhCT yn defnyddio cyflenwr trydydd parti, sef I-COM Works, er mwyn cynnal system ar-lein y mae modd i staff ei defnyddio i fanteisio ar amrywiaeth eang o fuddion i staff. Trwy ddefnyddio'r system yma, caiff staff eu hatgyfeirio i wefannau cwmnïau eraill sy'n cynnig Cynllun Buddion i Staff trwy ildio/aberthu cyflog, e.e. Tusker ar gyfer ceir, Halfords ar gyfer beiciau a Let's Connect ar gyfer technoleg.
Mae modd i staff lawrlwytho e-gerdyn gostyngiadau (Vectis) y mae modd ei ddefnyddio er mwyn manteisio ar amrywiaeth o ostyngiadau a chynigion, gan gynnwys gostyngiadau mewn siopau a bwytai'r stryd fawr.
|
2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy
Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:
- Manylion personol e.e. enw, cyfeiriad, dyddiad geni, Rhif Yswiriant Gwladol
- Manylion cyswllt e.e. rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
- Manylion ariannol e.e. gwybodaeth am eich cyflog
- Eich Rhif Cyflogres
Mae'r wybodaeth sy'n cael ei chadw a'i phrosesu ar gyfer gweithwyr cyflogedig yn unig.
|
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Caiff eich rhif cyflogres, sydd ei angen at ddibenion dilysu, ei lawrlwytho o system integredig adran Adnoddau Dynol / adran y Gyflogres Cyngor RhCT.
Caiff unrhyw wybodaeth arall sy'n cael ei defnyddio yn ystod y broses buddion staff ei mewnbynnu i'r gwefannau buddion staff perthnasol gan yr unigolyn sy'n cyflwyno cais am y cynnyrch. Caiff yr wybodaeth yma ei chasglu a'i hanfon i Adran Adnoddau Dynol RhCT.
|
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Caiff yr wybodaeth rydyn ni'n ei derbyn ei defnyddio i gymeradwyo cais gan aelod o staff am gynnyrch yn rhan o'r cynllun buddion staff.
Mae cofnodion staff yn cael eu defnyddio i wirio cymhwysedd ar gyfer cynlluniau ildio/aberthu cyflog. Er enghraifft, bydd adran y Gyflogres yn cynnal gwiriad er mwyn sicrhau nad yw gweithwyr cyflogedig yn mynd yn is na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol pan fydd taliadau yn cael eu didynnu, i brosesu taliadau i'r cynllun ac i brynu nwyddau. Byddwn ni hefyd yn gwirio a yw'r aelod o staff yn destun unrhyw newidiadau cytundebol neu a yw wedi rhoi hysbysiad yn ddiweddar i adael y sefydliad.
Fydd sefydliadau trydydd parti ddim yn cael yr wybodaeth yma. Rydyn ni dim ond yn rhoi gwybod bod modd i'r sefydliad symud ymlaen â'r pryniant.
|
5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae deddfwriaeth Diogelu Data yn nodi bod hawl gyda ni i ddefnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol mewn achosion lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny yn unig. Dyma ein seiliau cyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol:
Buddiannau cyfreithlon – Mae gan y Cyngor fuddiant cyfreithlon i gynnig pecynnau buddion a chynlluniau ildio/aberthu cyflog i'w aelodau o staff.
Rhwymedigaeth gyfreithiol – Ac yntau'n gyflogwr, mae gan Gyngor RhCT ddyletswydd o dan ddeddfwriaeth Isafswm Cyflog Cenedlaethol i sicrhau nad yw unrhyw ddidyniadau yn golygu bod yr unigolyn yn derbyn cyflog sy'n is na'r isafswm cyflog cenedlaethol.
|
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
Er mwyn i'r Gwasanaeth ymgymryd â'i ddyletswyddau mewn perthynas â'r Cynllun Buddion Staff, mae rhaid i ni rannu gwybodaeth gyda'r canlynol:
Adrannau eraill o'r Cyngor:
Sefydliadau eraill (fel sydd wedi'u nodi ym mhwynt 1):
- I-COM Works
- Tusker
- Halfords
- Let's Connect
- Vectis
- Salary Finance
|
7. Am faint o amser bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw?
Caiff yr wybodaeth yma ei chadw am gyfnod sy'n cyfateb i hyd y contract perthnasol rhwng y darparwr a'r aelod o staff. Caiff cofnodion ariannol eu cadw am saith mlynedd.
|
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
9. Cysylltu â ni
Os oes unrhyw bryderon gyda chi neu os ydych chi eisiau gwybod rhagor am sut rydyn ni'n trin eich gwybodaeth bersonol, mae modd i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod:
Anfon e-bost: BuddionStaffRhCT@rctcbc.gov.uk
Ffonio: 01443 570041
Anfon llythyr: Prif Adeiladau'r Cyngor, Heol Gelliwastad, Pontypridd CF37 2DP
|