Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Olrhain Cysylltiadau Rhanbarthol

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Olrhain Cysylltiadau yn ardal Cwm Taf Morgannwg.

 

Mae’r hysbysiad preifatrwydd yma wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau Llywodraeth Cymru o ran olrhain cysylltiadau, o 09/02/2023.

Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r prif ffyrdd y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (bydd 'ni' yn cyfeirio at y rhain yn yr hysbysiad yma) yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion olrhain cysylltiadau yn ardal Cwm Taf Morgannwg.

Byddwn ni bob amser yn dilyn cyngor ac arweiniad gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru a bydd unrhyw newidiadau i'r ffordd rydyn ni'n darparu cymorth i chi o ran Profi, Olrhain, Diogelu yn cael eu diweddaru yn yr hysbysiad preifatrwydd yma.

1.    Beth yw olrhain cysylltiadau a sut mae'n gweithio?

Wrth i gyfyngiadau gael eu llacio, mae angen i ni i gyd barhau i gymryd camau i ddiogelu ein hunain, ein teuluoedd a'r gymuned.  Mae olrhain cysylltiadau yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i ailddechrau gweithgareddau o ddydd i ddydd yn y frwydr barhaus yn erbyn COVID-19 (feirws Corona) a helpu i ddod o hyd i ffordd i bobl yng Nghymru fyw a gweithio ochr yn ochr â’r feirws wrth reoli ei ledaeniad.

Mae olrhain cysylltiadau yn ddull hysbys o reoli lledaeniad clefyd heintus. Cyn gynted ag yr ydych chi'n dechrau cael symptomau dylech hunanynysu a gwneud prawf llif unffordd ar ddiwrnod 5 a 6. Os yw'r ddau brawf yma'n negyddol cewch roi'r gorau i hunanynysu.

2.    Pwy sy'n darparu'r Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau?

 Er mwyn ymateb i COVID-19, sydd bellach yn endemig, mae olrhain cysylltiadau yn cael ei wneud ledled Cymru, ac mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan nifer o asiantaethau a sefydliadau allweddol y Llywodraeth. Yng Nghymru, y rhain yw Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru y GIG, y 7 Bwrdd Iechyd Lleol, 22 Awdurdod Lleol, Ymddiriedolaeth Ysbyty Felindre y GIG, Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, sy’n gweithio gyda'i gilydd i ddarparu'r Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau.

Gan ddibynnu ar ble rydych chi'n byw a'r cyswllt sydd wedi'i nodi drwy'r Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau, mae modd i unrhyw un o'r sefydliadau uchod brosesu'ch data chi.

Mae'r canlynol yn amlinellu'r hyn y mae pob sefydliad yn ei wneud mewn perthynas ag Olrhain Cysylltiadau yn ardal Cwm Taf Morgannwg.

Carfanau Olrhain Cysylltiadau Rhanbarthol

Yn ardal Cwm Taf Morgannwg;mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau i'r bobl sy'n byw yn y siroedd yma.   

Bydd y Garfan Olrhain Cysylltiadau ranbarthol yn cysylltu ag unigolion sydd wedi derbyn prawf positif i drafod eu symptomau a thrafod gyda phwy y buon nhw mewn cysylltiad (y cyfeirir atyn nhw fel 'cysylltiadau') a phryd.

Byddwch chi'n derbyn e-ffurflen i'w llenwi a byddwch chi'n cael y dewis i ddiweddaru eich manylion. Serch hynny, os fyddwch chi ddim yn llenwi'r ffurflen bydd y Garfan Olrhain Cysylltiadau yn cysylltu â chi i gasglu manylion.

Bydd y garfan hefyd yn cysylltu â'r cysylltiadau a byddan nhw'n derbyn gwybodaeth ddigidol gyda chyngor a dolenni ar beth i'w wneud nesaf. 

Mae pob galwad gan y carfanau Olrhain Cysylltiadau yn cael ei chofnodi at ddibenion monitro/hyfforddi ac i gynorthwyo gyda datrys unrhyw gwynion sy'n codi. 

GIG - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Bydd trigolion sydd wedi bod yn yr ysbyty am fwy na 3 diwrnod, yn cael eu nodi'n 'achos Covid a gafwyd yn yr ysbyty' a bydd y Bwrdd Iechyd Prifysgol Lleol yn ymgymryd â'r gwaith o Olrhain Cysylltiadau ar ran yr Awdurdod Lleol.

Bydd eich manylion chi'n cael eu trosglwyddo i Garfan Atal a Rheoli Heintiau (IP&C) yr ysbyty a fydd yn cysylltu â chi neu'n cwrdd â chi i ofyn cwestiynau er mwyn olrhain cysylltiadau. 

Dyma hefyd fydd y broses i rywun sydd wedi cael ei ryddhau o'r ysbyty, ond sy'n profi'n bositif am Covid yn fuan ar ôl ei ryddhau. Bydd y Garfan IP&C yn cysylltu â chi i drafod eich symptomau ac i drafod gyda phwy rydych chi wedi bod mewn cysylltiad.

Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn darparu'r system ddigidol lle mae'r holl wybodaeth sy'n cael ei chasglu gan y carfanau Olrhain Cysylltiadau rhanbarthol yn cael ei storio'n ddiogel.  

 Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICW)

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu cymorth arbenigol, cyngor ac arweinyddiaeth ar lefel genedlaethol i GIG Cymru, Byrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol mewn perthynas â COVID. 

Yn ogystal, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn darparu ac yn cydlynu gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau ar gyfer achosion sy'n deillio o sawl sir, er enghraifft lle mae unigolyn wedi teithio i ac o wahanol siroedd neu wledydd y tu mewn a'r tu allan i'r DU.  Mae hyn yn cael ei esbonio ymhellach yn yr hysbysiad yma.

3.    Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy

Bydd y Garfan Olrhain Cysylltiadau yn cadw'r wybodaeth ganlynol am y bobl ganlynol:

Unigolyn sydd wedi profi'n bositif am COVID-19:

  • Enw llawn
  • Cyfeiriad llawn a gwybodaeth gyswllt gan gynnwys rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.
  • Dyddiad geni
  • Rhyw
  • Rhif GIG
  • Manylion y prawf COVID-19 - dyddiad y prawf, dyddiad y canlyniad, y canlyniad (positif)
  • Manylion am symptomau COVID-19
  • Gwybodaeth ynghylch p'un a ydych chi mewn cartref gofal neu ysbyty.
  • Data am anabledd ac ethnigrwydd
  • Manylion am eich cartref chi a'ch trefniadau byw.
  • Gwybodaeth am y bobl rydych chi wedi bod mewn cysylltiad â nhw. Mae modd i hyn gynnwys y bobl sy'n byw gyda chi, eich teulu, ffrindiau a chydweithwyr ac ati. 
  • Gwybodaeth am y lleoedd rydych chi wedi ymweld â nhw.
  • Os buoch chi mewn cysylltiad â chydweithwyr. Efallai y bydd angen gwybodaeth arnon ni hefyd am eich man gwaith a'ch cyflogaeth.
  • Unrhyw wybodaeth arall a allai fod yn berthnasol i olrhain cysylltiadau yr hoffech ei rhannu â ni.
  • Cofnod o unrhyw gyngor a gwybodaeth rydyn ni wedi'u rhoi i chi.
  • Manylion unrhyw frechiadau Covid-19 rydych chi wedi'u cael.

Unigolyn sydd wedi bod mewn cysylltiad â pherson sydd wedi profi'n bositif am COVID-19:

 

  • Enw llawn
  • Cyfeiriad llawn a gwybodaeth gyswllt gan gynnwys rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.
  • Dyddiad geni
  • Manylion am unrhyw symptomau COVID-19 y gallech chi fod yn eu profi.
  • Data am anabledd ac ethnigrwydd.
  • Cofnod o unrhyw gyngor a gwybodaeth rydyn ni wedi'u rhoi i chi.
  • Unrhyw wybodaeth arall a allai fod yn berthnasol i olrhain cysylltiadau yr hoffech ei rhannu â ni.
  • Manylion unrhyw frechiadau Covid-19 rydych chi wedi'u cael.

4.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth, a chyda phwy mae'r gwasanaeth yn ei rhannu?

Unigolyn sydd wedi profi'n bositif am COVID-19:

Os ydych chi wedi profi'n bositif am COVID-19, bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i'r Garfan Olrhain Cysylltiadau gan y GIG. Bydd y Garfan Olrhain Cysylltiadau hefyd yn casglu rhagor o wybodaeth yn uniongyrchol gennych chi pan fyddan nhw'n siarad â chi/pan fyddwch chi'n llenwi'r e-ffurflen ac rydych chi'n cytuno i ateb cwestiynau gan y Swyddog Olrhain Cysylltiadau.

Unigolyn sydd wedi bod mewn cysylltiad â pherson sydd wedi profi'n bositif am COVID-19:

Os daw hi i'r amlwg eich bod chi mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi profi'n bositif am COVID-19, bydd eich enw a'ch manylion cyswllt wedi cael eu darparu i ni gan yr unigolyn sydd wedi profi'n bositif (am resymau cyfrinachedd, fyddwn ni ddim yn gallu dweud wrthoch chi pwy oedd y person hwnnw). Lle nad oes gan yr unigolyn yma'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom ni i gysylltu â chi, megis eich cyfeiriad llawn, eich cartref a'ch rhif ffôn symudol ac ati, mae modd i ni ddefnyddio systemau a chofnodion eraill y Cyngor i gynorthwyo wrth i ni chwilio am y wybodaeth yma er mwyn cysylltu chi, er enghraifft eich cofnod Treth y Cyngor. 

Gan ddibynnu ar bwy sydd wedi profi'n bositif, ble maen nhw'n byw a'r lleoedd / ardaloedd maen nhw wedi ymweld â nhw, mae'n bosibl y bydd eich gwybodaeth chi hefyd yn cael ei rhannu gyda sefydliadau eraill sy'n ymwneud ag olrhain cysylltiadau yng Nghymru a thu hwnt - megis carfanau Olrhain Cysylltiadau awdurdodau lleol eraill.

Lleoliadau gofal plant sy'n cael eu rheoli gan y Cyngor, ac ysgolion

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i Garfanau Olrhain Cysylltiadau weithio'n agos gyda lleoliadau addysg fel meithrinfeydd ac ysgolion sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor mewn perthynas â diogelwch y cyhoedd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod unrhyw blentyn sydd wedi cael prawf positif am unrhyw glefyd heintus ac unrhyw un sydd wedi bod mewn cysylltiad â nhw, yn cael eu cadw draw o'r ysgol/feithrinfa os oes angen.

Er mwyn sicrhau hyn, bydd y Garfan Olrhain Cysylltiadau yn rhannu canlyniad prawf plentyn gyda'r Pennaeth perthnasol neu Reolwr Gofal Plant Dechrau'n Deg y Cyngor os yw'n mynychu meithrinfa sy'n cael ei rhedeg gan y Cyngor.  Yn yr un modd, bydd y Pennaeth a'r Rheolwr Gofal Plant Dechrau'n Deg yn rhannu gwybodaeth y prawf gyda'r Garfan Olrhain Cysylltiadau os ydyn nhw'n dod yn effro i blentyn sy'n bositif neu'n cael prawf.

Caniatâd i weithredu ar eich rhan:

Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn, mae modd i chi roi caniatâd i ni siarad â rhywun arall ar ein rhan chi os yw'n well gennych chi.

Os ydych chi o dan 16 oed byddwn ni'n siarad â'ch rhieni / gwarcheidwaid am eich symptomau. 

5.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Unigolyn sydd wedi profi'n bositif am COVID-19:

Os ydyn ni wedi cael gwybod eich bod chi wedi profi'n bositif, bydd Swyddog Olrhain Cysylltiadau yn cysylltu â chi i ddarparu cyngor a chymorth. Byddan nhw'n gofyn am eich symptomau ac yn ceisio sefydlu gyda phwy y buoch chi mewn cysylltiad. 

Efallai y bydd angen i ni gyfeirio eich achos chi at adrannau eraill yn y Cyngor, er enghraifft Gwasanaethau Cymdeithasol os oes gennym ni unrhyw bryderon diogelu am eich lles chi neu eraill yn eich cartref.  Mae gan swyddogion ddyletswydd gyfreithiol i wneud hyn ac os hoffech chi wybod mwy am pam a sut y byddwn ni'n gwneud hyn, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant.

Unigolyn sydd wedi bod mewn cysylltiad â pherson sydd wedi profi'n bositif am COVID-19:

Os ydych chi wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi profi'n bositif, byddwch chi naill ai’n derbyn gwybodaeth ddigidol ynghylch beth i’w wneud nesaf neu bydd Ymgynghorydd Olrhain Cysylltiadau yn cysylltu â chi ac os cytunwch chi i ateb y cwestiynau, byddan nhw'n rhannu cyngor â chi ar beth i'w wneud nesaf.

Os na fyddwch chi'n cysylltu â'r garfan ac os nad ydych chi am ateb unrhyw gwestiynau, mae'n ofynnol i ni anfon llythyr atoch chi'n egluro pa gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd. 

Dyletswydd i hunanynysu

Eich cyfrifoldeb chi yw dilyn cyngor y Garfan Olrhain Cysylltiadau.

Dydy hi ddim yn ofyniad cyfreithiol i hunanynysu mwyach ond mae Llywodraeth Cymru yn argymell y dylech chi hunanynysu os ydych chi'n teimlo’n sâl.

Ymchwil ac Adrodd

Efallai y byddwn ni, y GIG, Iechyd y Cyhoedd, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan hefyd yn defnyddio dadansoddiad o'r wybodaeth uchod i lunio adroddiadau a fydd yn cynnwys;

  • Deall COVID-19 a'r risgiau i iechyd y cyhoedd, tueddiadau yn COVID-19 a risgiau o'r fath, ac agweddau ynghylch rheoli ac atal lledaenu COVID-19 a risgiau o'r fath
  • Nodi a deall gwybodaeth am gleifion neu ddarpar gleifion sydd â COVID-19 neu sydd mewn perygl ohono
  • Cyflwyno gwasanaethau i gleifion, clinigwyr, y gwasanaethau iechyd i'n trigolion.
  • Ymchwil a chynllunio mewn perthynas â COVID-19 (gan gynnwys cael eich gwahodd, o bosib, i fod yn rhan o dreialon clinigol)
  • Monitro cynnydd a datblygiad COVID-19.
  • Ymateb i ymchwiliadau cyhoeddus (adolygiad swyddogol o ddigwyddiadau neu weithredoedd wedi'i orchymyn gan gorff y llywodraeth)

6.    Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol at ddibenion Olrhain Cysylltiadau o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yw:

  • Erthygl 6(e) – tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.

Ar gyfer data mwy sensitif megis gwybodaeth am iechyd (a elwir yn ddata categori arbennig) mae angen sail gyfreithiol ychwanegol, ac mae hynny'n cael ei sicrhau drwy:

  • Erthygl 9(2)(h) – Darparu meddyginiaeth ataliol neu alwedigaethol, gofal neu driniaeth iechyd neu ofal cymdeithasol, neu reoli systemau iechyd a gofal cymdeithasol. 
  • Erthygl 9(2)(i) - Rhaid bod angen prosesu am resymau budd y cyhoedd ym maes iechyd y cyhoedd (megis amddiffyn rhag bygythiadau trawsffiniol difrifol i iechyd neu sicrhau safonau uchel a diogelwch gofal iechyd a sicrhau digon o feddyginiaethau neu ddyfeisiau meddygol)

Caiff hyn ei ategu gan y ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984
  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cymru) 2010
  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysiadau) (Cymru) 2010
  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Pwerau Awdurdod Lleol) (Cymru) 2010
  • Deddf Coronafeirws 2020
  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020
  • Deddf Ymchwiliadau 2005

Mae'r darnau yma o ddeddfwriaeth yn caniatáu i'r Cyngor gyflawni rhai dyletswyddau o ran amddiffyn y cyhoedd rhag afiechyd trosglwyddadwy sy'n cynnwys; ei atal, diogelu rhag yr afiechyd neu reoli'r risg i'r cyhoedd.  Mae hyn yn cynnwys caniatáu i'r Cyngor ddefnyddio gwybodaeth sydd gennym ni eisoes amdanoch chi, i'ch nodi chi fel cyswllt ac i rannu'ch gwybodaeth ag asiantaethau eraill. 

7.    Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall

Fel y disgrifir trwy gydol yr hysbysiad preifatrwydd hwn, mae modd i'r Garfan Olrhain Cysylltiadau rannu eich gwybodaeth bersonol â sefydliadau ac asiantaethau eraill sy'n ymwneud â darparu Olrhain Cyswllt COVID-19. Bydd y gofyn i rannu'r wybodaeth yma'n dibynnu pwy sydd wedi profi'n bositif, y bobl y buon nhw mewn cysylltiad â nhw a'r lleoedd y maen nhw wedi ymweld â hwy.

Mae modd i sefydliadau ac asiantaethau gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Awdurdodau Lleol
  • Adrannau'r Cyngor
  • Byrddau Iechyd Lleol
  • Ymddiriedolaethau’r GIG
  • Asiantaethau Iechyd y Cyhoedd

8.    Am ba mor hir caiff fy ngwybodaeth ei chadw?

Dim ond cyhyd ag y bo angen ac y byddwn ni'n cadw'ch data personol a byddwn ni ond yn ei gadw at y diben rydyn ni'n ei brosesu ar ei gyfer. 

Ar gyfer unigolyn sydd wedi profi'n bositif am COVID-19 byddwn yn cadw'ch gwybodaeth am 7 mlynedd.

Ar gyfer unigolyn sydd wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi profi'n bositif, ond does ganddo ddim symptomau ei hun, byddwn ni'n cadw'ch cofnodion am 5 mlynedd.

9.    Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

 Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

10. Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio at ddibenion Olrhain Cysylltiadau, cysylltwch â ni:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Carfan Iechyd y Cyhoedd

Tŷ Elái,

Dwyrain Dinas Isaf,

Trewiliam,

Tonypandy,

RhCT

CF40 1NY

 

Drwy e-bostio: GwasanaethOlrhainCysylltiadauRhCT@rctcbc.gov.uk