Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Diogelu Amlasiantaeth.
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau iddyn nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Diogelu Amlasiantaeth. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud
Hwb Diogelu Amlasiantaeth Cwm Taf (sy'n cael ei galw'n MASH yn aml) yw'r un pwynt cyswllt ar gyfer gweithwyr proffesiynol (megis gweithwyr cymdeithasol, staff gofal a chymorth, athrawon neu feddygon), ac aelodau'r cyhoedd i roi gwybod am bryderon diogelu am oedolion a phlant ar draws Cwm Taf.
Mae'r MASH yn bartneriaeth rhwng y sefydliadau a'r asiantaethau canlynol:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf - Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
- Heddlu De Cymru
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
- Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
- Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru
Mae MASH Cwm Taf yn un o nifer fach o ganolfannau tebyg ledled y wlad sy'n delio â phryderon yn ymwneud â phlant ac oedolion sy'n agored i niwed, ac achosion o gam-drin yn y cartref. Mae'n gweithredu mewn dull cyfannol sy'n canolbwyntio ar y teulu. Mae bron 50 aelod o staff o wasanaethau'r heddlu, y gwasanaethau iechyd, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, y Cwmni Adsefydlu Cymunedol, y gwasanaethau addysg, y gwasanaethau gofal cymdeithasol i blant a'r gwasanaethau diogelu oedolion yn gweithio law yn llaw yn swyddfa ‘MASH’
Mae'r MASH yn derbyn pryderon diogelu gan weithwyr proffesiynol, megis gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr gofal, athrawon a meddygon, a chan aelodau'r cyhoedd a theuluoedd hefyd, drwy ganolfannau cyswllt CBS Rhondda Cynon Taf a CBS Merthyr Tudful.
Pan fydd staff arbenigol RhCT wedi asesu bod perygl o niwed i oedolyn neu blentyn o ganlyniad i gam-drin neu eu bod nhw'n amau bod oedolyn neu blentyn yn cael ei esgeuluso, bydd cynrychiolwyr o wahanol asiantaethau'r MASH a'r tu allan yn casglu gwybodaeth o'u ffynonellau priodol i greu darlun cyflawn o amgylchiadau'r achos. O ganlyniad i hynny, bydd penderfyniadau gwell yn cael eu gwneud ynglŷn â'r camau i'w cymryd a bydd cymorth yn cael ei dargedu at yr achosion mwyaf brys. Mae cyd-drefniant gwell rhwng asiantaethau yn arwain at wasanaethau gwell ar gyfer oedolion, plant a theuluoedd
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Mae gan y MASH wybodaeth sy'n ymwneud ag atgyfeiriadau o'r gorffennol a'r presennol sydd wedi'u gwneud i'r Ganolfan. Gall yr atgyfeiriadau hyn gynnwys gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â:
- Unrhyw berson sydd mewn perygl (oedolyn neu blentyn)
- Unrhyw un sy'n cael ei amau o drosedd
- Rhieni / perthynas agosaf / aelodau'r teulu / cynhalwyr/gofalwyr
- Unrhyw berson neu bobl eraill sydd mewn perygl a all fod yn byw yn y tŷ
- Tystion
- Y person a nododd y pryder (gweithiwr proffesiynol neu aelod o'r cyhoedd)
Bydd y math o wybodaeth y bydd y MASH yn ei dal yn amrywio yn dibynnu ar natur y pryder, ond mae'n debyg y bydd yn cynnwys peth neu'r cyfan o'r wybodaeth ganlynol:
Y person sydd mewn perygl:
- Enw, dyddiad geni a manylion personol eraill megis rhif yswiriant gwladol, rhif cyfeirnod yr awdurdod lleol, rhif cyfeirnod iechyd
- Manylion unrhyw gyswllt blaenorol â'r sefydliadau sydd wedi'u rhestru uchod
- Gwybodaeth am anabledd (os yw'n berthnasol)
- Manylion Meddyg Teulu / Gweithiwr Cymdeithasol
- Hanes trais yn y cartref
- Euogfarnau blaenorol
- Risgiau i eraill
- Pryderon dioddefwyr
Y gweithiwr proffesiynol sydd wedi adrodd y pryder (nodwch nad yw gweithwyr proffesiynol yn gallu parhau i fod yn ddi-enw wrth adrodd pryder):
- Enw, manylion cyswllt
- Teitl swydd
- Sefydliad/Mudiad
- Perthynas â'r oedolyn neu'r plentyn
Manylion y person sy'n achosi pryder:
- Enw
- Oed, dyddiad geni
- Rhyw
- Ethnigrwydd
- Manylion cyswllt
- Perthynas â'r oedolyn neu'r plentyn
Rhiant / cynhaliwr / rhywun arall yn y cartref:
- Enw, cyfeiriad, dyddiad geni, gwybodaeth gyswllt (e-bost, ffôn ac ati)
- Perthynas â'r person sydd mewn perygl / cyfrifoldeb rhiant
- Rhyw
- Ethnigrwydd
- Perthynas â'r oedolyn neu'r plentyn
Manylion gweithwyr proffesiynol eraill sy'n ymwneud â'r achos:
Manylion cyfranogiad blaenorol gan:
- Gwasanaethau Plant/Oedolion
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Mae'r MASH yn derbyn gwybodaeth gan:
- Y person neu'r sefydliad sy'n gwneud yr atgyfeiriad. Gallai hyn fod drwy:
- Y person sydd mewn perygl
- Aelod o deulu'r person sydd mewn perygl, neu ffrind iddyn nhw
- Aelod o'r cyhoedd sy'n pryderu
- Gweithiwr proffesiynol fel gweithiwr cymdeithasol, athro, meddyg teulu neu weithiwr iechyd ac ati.
- Partneriaid perthnasol.
- Mae'r MASH hefyd yn paratoi ei wybodaeth ei hun, er enghraifft wrth gydweithio i benderfynu ar y ffordd orau o weithredu i rywun.
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Bydd y MASH yn defnyddio'r wybodaeth hon i:
- Cynnal 'Trafodaeth Strategaeth Amlasiantaeth'. Yn y cyfarfod bydd yr holl wybodaeth berthnasol sy wedi'i chasglu gan asiantaethau partner yn cael ei hadolygu i benderfynu ar y camau gweithredu mwyaf priodol ac i gefnogi'r achosion mwyaf brys.
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae cyfraith Diogelu Data yn dweud ein bod yn gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol lle mae gyda ni resymau priodol a chyfreithlon dros wneud hynny yn unig.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol yn yr Hwb Diogelu Amlasiantaeth yw:
- cydymffurfio â'n rhwymedigaethau statudol i amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl.
Am wybodaeth fwy sensitif (h.y. gwybodaeth categori arbennig am hil, tarddiad ethnig, wleidyddiaeth, crefydd, aelodaeth undeb llafur, geneteg, biometreg, iechyd, bywyd neu gyfeiriadedd rhyw) ein sail gyfreithiol yw:
- Cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014.
- Cefnogi darparu meddygaeth ataliol neu alwedigaethol, diagnosis meddygol, darparu triniaeth iechyd neu ofal cymdeithasol neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?
Lle nad yw pryderon yn bodloni'r meini prawf niwed difrifol, bydd cyngor yn cael ei gynnig i'r rheiny sy'n codi'r pryder am ba gamau y dylen nhw eu cymryd mewn ymateb i'r materion maen nhw wedi'u codi.
Bydd pryderon sy'n bodloni'r wybodaeth am feini prawf niwed difrifol yn cael eu rhannu rhwng y sefydliadau partner o fewn y MASH (sy'n wedi'u rhestru uchod).
Unwaith y bydd Trafodaeth Strategaeth Amlasiantaeth wedi digwydd a'r camau gweithredu mwyaf priodol wedi'u penderfynu, mae modd cyfeirio unigolion at nifer o wasanaethau cymorth mewnol ac allanol fel:
- Carfanau Derbyn ac Asesu Gwasanaethau Plant.
- Carfanau Asesiadau Tymor Byr neu Dymor Hir a Rheoli Gofal Gwasanaethau Oedolion.
- Darparwyr Gofal a Chefnogaeth.
7. Am faint o amser fyddwch chi'n cadw fy ngwybodaeth?
Bydd pryderon diogelu sy'n ymwneud â phlant yn cael eu cadw am 75 mlynedd o ddyddiad geni'r plentyn.
Bydd pryderon diogelu sy'n ymwneud ag oedolion sy'n agored i niwed yn cael eu cadw am o leiaf 7 mlynedd o'r dyddiad y daeth unrhyw wasanaeth gofal cymdeithasol i ben.
Eich gwybodaeth, eich hawliau
Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael mynediad i'r wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.
Edrychwch ar fanylion pellach ar eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw
Cysylltu â ni:
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
E-bost: gwrando.cwynion@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn: 01443 425003
Drwy lythyr: Carfan Gwella Gwasanaeth a Chwynion
Tŷ Elái
Dwyrain Dinas Isaf,
Trewiliam,
Tonypandy.
CF40 1NY