Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Cymunedau am Waith+ (CaW+) a rhaglenni sy wedi'u hariannu gan Gronfa Waddol Llywodraeth Cymru
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Cymunedau am Waith+ (CaW+) a rhaglenni sy wedi'u hariannu gan y Gronfa Waddol. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma a hefyd hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.
Rhaglenni sy wedi'u hariannu gan grantiau Llywodraeth Cymru yw rhaglenni CaW+ a rhaglenni Gwaddol Mae CaW+ yn darparu cyfleoedd hyfforddi a chymorth cyflogaeth i drigolion ar draws Rhondda Cynon Taf.
Mae'r rhaglen Gwaddol yn cefnogi cyflwyno rhai o weithgareddau Cymunedau'n Gyntaf yn barhaus ac yn darparu cyfleoedd ymgysylltu i drigolion yn eu cymunedau lleol.
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am yr unigolion sy'n cael eu hatgyfeirio at ein gwasanaeth ac sy'n cofrestru i gymryd rhan yn y gweithgareddau rydyn ni'n eu darparu ar gyfer y ddwy raglen grant yma.
Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:
- Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
- Manylion i'ch adnabod, gan gynnwys dyddiad geni a rhif yswiriant gwladol
- Amgylchiadau personol unigol gan gynnwys sefyllfa budd-daliadau, profiad cyflogaeth a lefel cyrhaeddiad addysgol, nodau personol a rhwystrau i gyflogaeth
- Gwybodaeth am gyfleoedd cyfartal (mae'r wybodaeth yma yn ddienw ac mae dewis gyda chi i'w rhoi neu beidio)
- Dewis Iaith
- Presenoldeb mewn gweithgareddau
- Dilyniant a chyflawniadau'r unigolyn yn dilyn cefnogaeth
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Mae ffynonellau gwybodaeth bersonol gynnwys:
- Gwybodaeth sy wedi'i darparu'n uniongyrchol gan bobl sy'n cymryd rhan yn y rhaglenni sy'n llenwi ffurflenni cofrestru cyn cael cymorth neu fynd i weithgareddau.
- Gwybodaeth sy wedi'i darparu gan bartneriaid yn y sector gwirfoddol sy'n cynnal gweithgareddau ar ein rhan. Mae pobl sy'n cymryd rhan yn y gweithgareddau yma'n llenwi ffurflenni cofrestru eto cyn cael cymorth neu fynd i weithgareddau. Dyma rai o'r sefydliadau yma: YMCA Hirwaun, Your Future Training, Adfywio Cymuned Glyn-coch Cyf., Cymdeithas Gymunedol Y Gilfach Goch, Partneriaeth Fern, Plant y Cymoedd, Prosiectau Ieuenctid Blaenllechau a Fernhill.
- Gwybodaeth sy wedi'i darparu gan adrannau eraill yn y Cyngor lle mae'r bobl sy'n cymryd rhan wedi gofyn am gymorth cyflogaeth ac angen cymorth cyflogaeth neu sy wedi gofyn i gael mynediad at weithgareddau'r rhaglen e.e. Y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth, Gwasanaethau Cymdeithasol, Tim Hyfforddi Addysg Cyflogaeth
- Gwybodaeth sy wedi'i darparu gan bartneriaid a sefydliadau eraill e.e. atgyfeiriadau o Fwrdd Iechyd Cwm Taf, Cymdeithasau Tai, rhaglenni cefnogi cyflogaeth eraill gan gynnwys Cymunedau am Waith, Canolfannau Gwaith, Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE).
- Gwybodaeth sy wedi'i darparu gan adrannau eraill y Cyngor sy'n cefnogi cyflwyno'r rhaglenni gan gynnwys e.e. y Gwasanaeth Addysg i Oedolion a Gwasanaethau Hamdden.
-
Gwybodaeth gaiff ei darparu yn uniongyrchol gan gyfranogwyr y rhaglenni a'r gwasanaethau wrth lenwi holiaduron adborth a gwerthuso.
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol er mwyn teilwra'r cymorth sy'n cael ei ddarparu i bobl sy'n cymryd rhan yn y rhaglen ac mae'n caniatáu i ni ddarparu gwybodaeth ar ba gefnogaeth a gweithgareddau sydd ar gael.
Efallai byddwn ni hefyd yn gwneud atgyfeiriadau i sefydliadau partner dibynadwy eraill (y tu allan i'r rhaglen) ar ran unigolyn. Bydd unrhyw atgyfeiriad o'r fath yn gofyn am ganiatâd yr unigolyn.
Caiff unrhyw wybodaeth sy’n dod i law o holiaduron adborth a gwerthuso ei defnyddio i wella'r rhaglenni a'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu, a’r gwasanaeth yn ei gyfanrwydd.
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae deddf Diogelu Data yn dweud bod modd i ni ddefnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny yn unig.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth yma o ran rhaglenni Cymunedau am Waith+ yw cyflawni dyletswyddau swyddogol y Cyngor a bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol.
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?
Rydyn ni'n rhannu gwybodaeth gyda:
- Ein partneriaid yn y sector gwirfoddol sy'n cynnal gweithgareddau. Mae'n bosibl y bydd y sefydliadau yma'n cynnwys: YMCA Hirwaun, Your Future Training, Adfywio Cymuned Glyn-coch Cyf., Cymdeithas Gymunedol Y Gilfach Goch, Partneriaeth Fern, Plant y Cymoedd, Prosiectau Ieuenctid Blaenllechau a Fernhill.
- Gwasanaethau eraill y Cyngor lle mae pobl sy'n cymryd rhan wedi gofyn am gymorth cyflogaeth ac angen cymorth cyflogaeth neu sy wedi gofyn i gael mynediad at weithgareddau'r rhaglen e.e. Y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth, Gwasanaethau Cymdeithasol, Tim Hyfforddi Addysg Cyflogaeth
- Gwasanaethau eraill y Cyngor sy'n cefnogi cyflwyno'r rhaglenni, e.e. Gwasanaethau Addysg Oedolion a Gwasanaethau Hamdden.
- Partneriaid dibynadwy a sefydliadau eraill e.e. atgyfeiriadau o Fwrdd Iechyd Cwm Taf, Cymdeithasau Tai, rhaglenni cymorth cyflogaeth eraill gan gynnwys Cymunedau am Waith, Canolfannau Gwaith, Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE).
- Cyflogwyr neu ddarparwyr hyfforddiant, fel bod modd i ni gadarnhau a chael tystiolaeth o gynnydd neu gyflawniadau at ddibenion rhoi gwybod e.e. os ydych chi wedi ennill cymhwyster ar ôl mynychu un o'n cyrsiau hyfforddi neu wedi dod o hyd i leoliad gwaith neu gyflogaeth.
- O bryd i'w gilydd efallai byddwn ni hefyd yn gwneud atgyfeiriadau ac yn rhannu gwybodaeth bersonol gyda darparwyr gwasanaeth neu sefydliadau dibynadwy eraill fel bod modd iddyn nhw roi cyngor a / neu gefnogaeth i chi sy ddim ar gael trwy ein rhaglenni. Byddwn ni'n gofyn am eich caniatâd i wneud hyn pan fyddwch chi'n cofrestru ar gyfer ein rhaglenni.
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth
Byddwn ni ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd â bod ei hangen arnon ni i weinyddu'r gronfa grantiau a rhoi tystiolaeth o'r ffigurau sy'n cael eu hadrodd i Lywodraeth Cymru ac o fewn y Cyngor.
Fel rheol, mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrthyn ni pa mor hir y mae angen i ni gadw'r wybodaeth. Mae hyn yn amrywio yn dibynnu ar y grant a ddyfarnwyd.
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.
Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.
9. Cysylltu â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
- E-bost: CaW@rctcbc.gov.uk
- Ffôn: 01443 425761
- Trwy lythyr: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Carfan Ganolog CaW+, Tŷ Elai, Ystad Ddiwydiannol Dinas Isaf, Trewiliam, Tonypandy, RhCT, CF40 1NY.