Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaeth Ansawdd a Hyfforddiant Arlwyo ar gyfer darparu hyfforddiant
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.
Mae Carfan Ansawdd a Hyfforddiant Arlwyo'r Cyngor yn darparu hyfforddiant statudol i staff y Gwasanaethau Arlwyo. Ein rôl ni yw sicrhau bod hyfforddiant cychwynnol a hyfforddiant diweddaru mewn diogelwch bwyd, iechyd a diogelwch, cymorth cyntaf a hyfforddiant gofal cwsmer yn cael ei ddarparu i staff ein Gwasanaethau Arlwyo. Mae cofrestr hyfforddi a chofnodion hyfforddi ar gyfer holl staff RhCT hefyd yn cael eu cynnal.
Rydyn ni hefyd yn cynnig hyfforddiant arlwyo i adrannau mewnol eraill y Cyngor a sefydliadau a busnesau allanol ar gais.
Edrychwch ar ragor o wybodaeth am ein gwasanaeth ansawdd a hyfforddiant.
|
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Fel arfer bydd y mathau o wybodaeth byddwn ni'n eu casglu a'u defnyddio yn cynnwys:
- Gwybodaeth am yr hyfforddai gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn, dyddiad geni, lleoliad cyflogaeth (maes gwasanaeth, cwmni ac ati)
- Cofnod hyfforddi - y cwrs mae wedi'i wneud, dyddiadau, lleoliad, gradd ac ati
- Dyddiad y sesiwn gloywi
|
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Ar gyfer gweithwyr RhCT bydd yr wybodaeth uchod yn cael ei darparu gan:
- Hyfforddai
- Y Garfan Arlwyo Ganolog
- Gweithiwr / hyfforddai e.e. cogydd
- Sefydliadau arholiadau allanol (fel Highfield HABC a Choleg y Cymoedd)
Ar gyfer hyfforddeion allanol, bydd yr hyfforddai a / neu ei gyflogwr yn darparu'r wybodaeth.
|
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol yma er mwyn -
- Trefnu a chyflwyno'r hyfforddiant angenrheidiol
- Cadw cofnod o'r hyfforddiant hwnnw
- At ddibenion ariannol - e.e. yn achos hyfforddai allanol i anfonebu'r cyflogwr am gost y cwrs ac adennill y ddyled
|
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol at y dibenion uchod yw:
- Cyflawni ein dyletswyddau swyddogol fel Cyngor ac i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y ddeddfwriaeth:
- Deddf Diogelwch Bwyd 1990
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974
- Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999
|
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?
Yn achos gweithwyr y Cyngor, byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth gyda:
- Gwasanaethau'r Amgylchedd - i gadw cofnodion o'r hyfforddiant fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith
- Rheolwr Llinell - e.e. i gadarnhau presenoldeb / cwblhau'r cwrs
- Darparwyr arholwr / hyfforddiant - Highfield HABC a Choleg y Cymoedd i wirio'r cofnodion arholiadau a hyfforddi
Ar gyfer hyfforddeion allanol byddwn ni'n rhannu gwybodaeth gyda'r:
- Cyflogwr - e.e. i gadarnhau presenoldeb / cwblhau'r cwrs
- Darparwyr arholwr / hyfforddiant - Highfield HABC a Choleg y Cymoedd i wirio'r cofnodion arholiadau a hyfforddi
|
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Byddwn ni'n cadw ein cofnodion am 6 blynedd ar ôl cwblhau'r hyfforddiant yn unol â chyfraith Iechyd a Diogelwch ar gyfer holl staff sy wedi'u cyflogi gan y Cyngor a 3 blynedd ar gyfer unrhyw sefydliadau neu fusnesau allanol.
|
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
9. Cysylltwch â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
E-bost : gwasanaethauarlwyo@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn : 01443 744089
Trwy lythyr : Gwasanaethau Arlwyo, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ
|