Oes gyda chi ddiddordeb mewn sefydlu Cynllun Gwarchod Cymdogaeth yn eich ardal?
Y Cynllun Gwarchod Cymdogaeth yw un o'r cynlluniau atal troseddau mwyaf a mwyaf llwyddiannus mewn hanes. Mae aelodau'n lleihau trosedd ac yn cynyddu ymwybyddiaeth o atal trosedd trwy wella diogelwch cartref.
Serch hynny, mae agweddau eraill i'r cynllun yn ogystal â lleihau trosedd.
Ei nod yw dod â chymdogion at ei gilydd i greu cymunedau cadarn, cyfeillgar a gweithredol, a thrwy hynny leihau'r tebygolrwydd bod trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd.
Ar hyn o bryd mae Heddlu De Cymru yn cefnogi nifer o gynlluniau Gwarchod Cymdogaeth swyddogol yn ardaloedd Taf Elái a Chwm Cynon. Serch hynny, ar hyn o bryd, does dim cynlluniau Gwarchod Cymdogaeth swyddogol yn gweithredu yn ardaloedd Cwm Rhondda Fach na Chwm Rhondda Fawr.
Po fwyaf o bobl sydd eisiau cymryd rhan, po fwyaf llwyddiannus bydd Cynllun Gwarchod Cymdogaeth ar gyfer pawb sy'n byw yn yr ardal. Ond does dim angen i bawb mewn stryd neu gymdogaeth ymuno â chynllun iddo weithio. Bydd yn gweithio cyhyd â bod digon o drigolion i gadw llygad ar eiddo ei gilydd ac i gysylltu â'r heddlu.
Os oes gyda chi ddiddordeb mewn sefydlu Cynllun Gwarchod Cymdogaeth yn eich ardal chi, cysylltwch â'ch Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) lleol drwy fynd i'r wefan ganlynol: -
https://www.south-wales.police.uk/cy/eich-ardal-chi/
Wedi ei bostio ar 22/03/19