Beth yw Trosedd Casineb?
Mae trosedd casineb yn drosedd sy'n digwydd i rywun oherwydd pwy ydyn nhw
Mae hyn yn cynnwys:
- Galw enwau
- Bwrw a dyrnu
- Pobl yn gwneud hwyl am eich pen
- Bwlio
- Cael eich dychryn gan rywun
- Cael eich pethau wedi'u dwyn neu eu difrodi
Mae modd i Drosedd Casineb Ddigwydd i Rywun oherwydd:
- Hîl
- Crefydd neu gred
- Cyfeiriadedd Rhywiol
- Sut mae rhywun yn gweld eu rhywedd
- Anabledd gan gynnwys anabledd dysgu
- Anabledd corfforol ac iechyd meddwl
- Dylech chi ddweud wrth yr heddlu os bydd trosedd casineb yn digwydd i chi, os gwelwch un yn digwydd neu os ydych chi'n adnabod rhywun y mae wedi digwydd iddo.
- Os dydych chi ddim eisiau cysylltu â'r Heddlu, mae modd i chi siarad ag asiantaethau eraill fel Cymorth i Ddioddefwyr neu Grwpiau Cymorth Lleol.
Sut i ddweud wrth yr Heddlu am Drosedd Casineb
Yn bersonol: drwy ymweld â'ch gorsaf heddlu leol yn bersonol neu siarad â'ch Swyddog Heddlu Cymunedol neu Swyddog Cymorth Cymunedol.
Ffôn: Mewn achos o argyfwng, ffoniwch 999.
Ar gyfer cwestiynau cyffredinol neu i ddweud wrth yr heddlu am drosedd neu ddigwyddiad sydd ddim yn digwydd bellach, ffoniwch 101
Cymorth i Ddioddefwyr ar 0300 3031982 (am ddim 24/7)
Ar-lein: True Vision mae modd i chi ddweud wrth yr heddlu am drosedd casineb yn report-it.org.uk
Cymorth i Ddioddefwyr www.reporthate.victimsupport.org.uk
Grwpiau Cymorth: Mae modd i chi gysylltu â grwpiau cymorth yn eich ardal leol. Mae rhestr o fanylion cyswllt grwpiau cymorth yn True Vision www.report-it.org.uk
Wedi ei bostio ar 22/03/19