Cerbydau Oddi Ar y Ffordd Anghyfreithlon - Ydyn Nhw'n Effeithio Arnoch Chi?
Mae Cymunedau Preswyl Trefol a Gwledig yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yn cael eu poeni gan nifer fawr o bobl yn defnyddio cerbydau oddi ar y ffordd anghyfreithlon gan achosi niwsans sŵn, difrodi ffensys a gadael gatiau yn agored. Mae hyn yn creu sefyllfaoedd lle mae modd i dda byw lleol grwydro ar briffyrdd prysur gan arwain at ganlyniadau difrifol. Rhwng mis Ionawr 2018 a mis Rhagfyr 2018, adroddwyd bod 452 o achosion o gerbydau oddi ar y ffordd yn cael eu gyrru'n anghyfreithlon.
Ble mae'n anghyfreithlon i yrru eich cerbyd oddi ar y ffordd?
Ar unrhyw dir, lle dyw perchennog y tir ddim wedi rhoi caniatâd i chi. Mae hyn yn cynnwys:
Tir comin / Rhostir / Llwybrau troed / Llwybrau ceffylau
Ffyrdd cefn cyfyngedig / Llwybrau tynnu camlesi
Rheilffyrdd segur
Ffyrdd, gan gynnwys Lonydd Gwyrdd sy'n cael eu hystyried i fod yn ffyrdd os does gyda chi ddim trwydded yrru, yswiriant, treth, tystysgrif prawf ac os does gan y beic ddim platiau rhif
Ffyrdd sy'n cael eu Defnyddio fel Llwybrau Cyhoeddus
Effeithiau
Mae gan swyddogion y grym i atafaelu cerbydau lle mae ganddyn nhw sail i wneud hynny o dan Adran 165A o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988. Mae ganddyn nhw hefyd yr hawl i erlyn y gyrrwr. Mae modd i Swyddogion hefyd gyflwyno Hysbysiadau Adran 59 i chi os byddwch chi'n cael eich dal yn gyrru ar dir heb ganiatâd perchennog y tir. Os ydych chi'n derbyn dau rybudd mewn 12 mis yna bydd eich cerbyd yn cael ei atafaelu, a bydd rhaid i chi dalu i’w gael yn ôl. Os byddwch chi ddim yn talu, bydd eich cerbyd yn cael ei ddinistrio.
Lle i yrru'n gyfreithlon
Trac MotoCross BWL. Ynys-y-bŵl, RhCT. https://www.facebook.com/groups/314457776260/
Trac MotoCross Cefn Parc. Pen-y-bont ar Ogwr https://m.facebook.com/Cefn-Parc-MX-teax
Canolfan MotoCross Foreshore Caerdydd https://www.facebook.com/foreshoremxc
Cwm Aberbeeg. Abertyleri
https://www.facebook.com/pages/Aberbeeg-Motocross-track/828457833897537
Motocross Battle Aberhonddu 07500043672 / https://m.facebook.com/battle.mx.9
Wedi ei bostio ar 22/03/19