Merthyr tydfil 12 jpeg

Mae Carfan Cymunedau Diogel Cyngor Merthyr Tudful ar hyn o bryd yn treialu ap sy'n caniatáu i staff a phartneriaid adrodd lle mae offer cyffuriau wedi eu canfod.


Mae'r ap cyntaf o'i fath yn y DU, o'r enw Cymunedau Diogelach Cymru yn cael ei dreialu gan Bartneriaeth Cymunedau Diogel. Mae'n gronfa ddata fapio a gafodd ei chynllunio i ddangos lleoliad sbwriel cyffuriau fel nodwyddau sydd wedi cael eu defnyddio ac sydd heb eu defnyddio, caniau nwy ocsid nitraidd, pibellau crac, a phoptai heroin ymhlith eitemau eraill.

Dechreuodd y cynllun peilot ym mis Tachwedd llynedd ac mae'n rhedeg tan fis Awst eleni. Mae 20 o bobl yn ei dreialu ar hyn o bryd.


Mae'r ap yn darparu map o Ferthyr Tudful sy'n rhoi darlun byw yn dangos lle mae offer cyffuriau'n cael ei ganfod.
Mae modd i'r person sy'n rhoi gwybod am ddarganfyddiad ddweud pa fath o offer cyffuriau mae wedi'i ddarganfod ac ar ba fath o dir mae wedi dod o hyd i'r offer, er enghraifft yn yr orsaf fysiau, ar dir preifat neu dir cyhoeddus, ac mae'n galluogi defnyddwyr i lunio graffiau.


Yn ddiweddar, mae'r ap hefyd wedi cael ei ddefnyddio i leoli lle mae pobl yn cysgu allan yn y dref, gan eu bod wedi gweld cysylltiad rhwng pobl sy'n cysgu allan a lle mae pobl wedi dod o hyd i offer cyffuriau.
Dywedodd Ryan Evans o Bartneriaeth Cymunedau Diogel Merthyr Tudful “o'r blaen roedd rhaid i ni ddibynnu ar ddata anecdotaidd am faterion, ond, erbyn hyn, mae modd i ni gasglu gwybodaeth sy'n cyfrannu at orfodi, cymorth ac addysg am gyffuriau. Rydyn ni eisoes wedi dechrau defnyddio'r wybodaeth i dargedu'r ardaloedd sy'n cael eu heffeithio fwyaf ac i ymgysylltu â phobl.

Wedi ei bostio ar 22/03/19