
Fel rhan o Gynllun Cyflawni Partneriaeth Cymunedau Diogel Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae'r Awdurdod Lleol ar hyn o bryd yn ymgynghori â phartneriaid ac yn adolygu'r Strategaeth Lleihau Troseddau Busnes ar gyfer Canol Tref Aberdâr a Phonty
Fel rhan o Gynllun Cyflawni Partneriaeth Cymunedau Diogel Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae'r Awdurdod Lleol ar hyn o bryd yn ymgynghori â phartneriaid ac yn adolygu'r Strategaeth Lleihau Troseddau Busnes ar gyfer Canol Tref Aberdâr a Phontypridd. Lleihau effaith troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar Fusnesau a rhoi sicrwydd i bobl sy'n ymweld â'r ddau Ganol Tref.
Fel rhan o'r adolygiad yma, mae'r Bartneriaeth Cymunedau Diogel yn galw ar fusnesau Canol Trefi i ddod yn aelodau o System 'Radio Net' y Cyngor, fydd yn rhoi'r buddion canlynol i'ch Busnes a'ch Staff:
Cyswllt uniongyrchol i Garfan TCC y Cyngor
Cyswllt uniongyrchol i Fusnesau eraill sy'n rhan o'r cynllun
Cyswllt uniongyrchol i'r Heddlu
Botwm Panig
Gallu rhannu gwybodaeth yn gyflym gyda'r Heddlu a Busnesau eraill ynglŷn â throseddau mewn siopau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
Gallu cadarnhau manylion yn gyflym am unigolion sydd wedi'u gwahardd o Ganol y Dref o ganlyniad i ddwyn o siopau
I gofrestru ar gyfer y gwasanaeth effeithiol yma am gost o £3.50 yr wythnos.
Cysylltwch â Mr. Wayne Bluck Rhif Ffôn: 01443 494876 neu Wayne.Bluck@rctcbc.gov.uk
Wedi ei bostio ar 22/03/19