Beth yw barn y Rheolyddion am y Cyngor a'i wasanaethau?
Mae sawl corff rheoleiddio annibynnol sy'n archwilio, arolygu, adolygu ac adrodd ynglŷn â'r Cyngor a'i wasanaethau er mwyn sicrhau bod preswylwyr yn derbyn y gwasanaethau gorau posib a gwerth eu harian gan y Cyngor. Mae'r cyrff yma'n gweithredu ar wahân i'r Cyngor, ac yn aml maen nhw'n cael eu hadnabod fel y 'rheolyddion'.
Mae gwaith y rheolyddion hefyd yn rhoi sicrwydd i Gynghorwyr a phreswylwyr bod y Cyngor yn gwella, ac yn hyrwyddo gwaith gwella pellach. Mae'r rheolyddion hefyd yn galw'r Cyngor i gyfrif am yr hyn sydd ddim yn dda neu sydd ddim yn mynd rhagddo. Mae rheolyddion hefyd yn rhannu gwybodaeth â Llywodraeth Cymru er mwyn iddi ddatblygu strategaethau a gwasanaethau gwell.
Y prif gyrff rheoleiddio ar gyfer ein gwasanaethau yw:
Swyddfa Archwilio Cymru
Dyma bwyllgor gwarchod y sector cyhoeddus yng Nghymru. Nod y Swyddfa Archwilio Cymru yw sicrhau bod pobl Cymru yn gwybod a yw arian cyhoeddus yn cael ei wario a'i reoli mewn modd call, a bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn deall sut i wella deilliannau.
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn disodli Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)
Dyma'r corff rheoleiddio ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru. O warchodwyr plant, i feithrinfeydd, ac i gartrefi i'r henoed, mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn gyfrifol am gofrestru, arolygu a gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru. Cafodd Adroddiad Gwerthuso Cyflawniad AGGCC 2018/19 ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2019. Dyma'r adroddiad diweddaraf.
Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (ESTYN)
Mae Estyn yn arolygu ansawdd a safonau darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru, gan gynnwys meithrinfeydd, ysgolion cynradd ac uwchradd, colegau, gwasanaethau addysg yr awdurdod lleol ar gyfer plant a phobl ifainc, addysg a hyfforddiant i athrawon, ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion.
Mae Estyn hefyd yn arolygu Consortiwm Canolbarth y De ac ysgolion yn yr ardal. Ewch i www.estyn.gov.uk i fwrw golwg ar adroddiad arolygu unigol.
Mae Comisiynydd y Gymraeg hefyd yn ein rheoleiddio.
Ar ôl i'r rheolyddion gwblhau archwiliad, caiff adroddiad ei baratoi er mwyn rhannu'r darganfyddiadau â'r cyhoedd. Mae hyn yn helpu eraill i ddeall mwy am y Cyngor a'i wasanaethau, ac yn arwain at benderfyniadau a deilliannau gwell ar gyfer y preswylwyr.
Mae gwaith y rheolyddion hefyd yn rhoi sicrwydd i Gynghorwyr a phreswylwyr bod y Cyngor yn gwella, ac yn hyrwyddo gwaith gwella pellach. Mae'r rheolyddion hefyd yn galw'r Cyngor i gyfrif am yr hyn sydd ddim yn dda neu sydd ddim yn mynd rhagddo. Mae rheolyddion hefyd yn rhannu gwybodaeth â Llywodraeth Cymru er mwyn iddi ddatblygu strategaethau a gwasanaethau gwell. Oherwydd bod yr adroddiadau yma ar gael i bawb, mae'r broses yn arwain at benderfyniadau a deilliannau gwell ar gyfer y preswylwyr.
Ar ôl i'r Cyngor dderbyn adroddiad archwilio, mae'r swyddogion a'r cynghorwyr yn mynd ati i ystyried ei sylwadau. Mae modd defnyddio darganfyddiadau ac argymhellion er mwyn cryfhau ein trefniadau neu wella gwasanaethau'r Cyngor.
Mae pob adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi gan y rheolyddion yn cael ei adrodd yn ôl i Gabinet y Cyngor ac yn cael ei adolygu gan y Pwyllgor Craffu perthnasol yn ogystal â chael ei rannu â'r Pwyllgor Archwilio. Isod, mae modd i chi weld yr adroddiadau sydd wedi cael eu cyhoeddi gan y rheolyddion ers mis Ionawr 2016.
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.