Skip to main content

Rhondda Cynon Taf Council - Scrutiny Blog

Y Cynghorydd Shelley Rees-Owen, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc - Blog y Cadeirydd

Wedi ei bostio ar 05/05/21

Rydw i'n ysgrifennu Blog Cadeirydd y Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc eleni yn dilyn blwyddyn anhygoel a heriol i ni i gyd.

Y Pwyllgor Craffu - Plant a Phobl Ifainc oedd yr ail bwyllgor craffu i gael ei ailsefydlu yn dilyn cyfnod o hyfforddiant a pharatoi ar gyfer cynnal ein pwyllgorau ar-lein. Roedd yn amserol iawn wrth inni dderbyn y cyntaf o blith nifer o ddiweddariadau gan y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ym mis Gorffennaf 2020. Rydyn ni wedi derbyn cyfanswm o 5 diweddariad gan y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant mewn perthynas ag ymateb y Cyngor i COVID-19, o safbwynt addysg, a chan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant yn amlinellu'r gefnogaeth sydd ar waith i blant a theuluoedd agored i niwed Rhondda Cynon Taf.

Yn dilyn y diweddariadau yma, gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth am sut roedd y ddau faes Gwasanaeth allweddol yn hyrwyddo cydnerthedd teuluoedd a lles emosiynol yn ystod Covid-19, a gwnaethon ni ddefnyddio'r adroddiadau hyn fel sail i'n llwybrau ymholi a'n rhaglen waith ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020/21. Mewn cyfarfod ar y cyd o'r ddau faes gwasanaeth ym mis Rhagfyr 2020, cawson ni gyfoeth o wybodaeth yn nodi sut roedd y gwasanaethau'n gweithio ar y cyd ac yn addasu i'r sefyllfaoedd heriol, a oedd yn newid yn barhaus.

Yn ddiweddar, rydyn ni wedi derbyn adroddiad ar y cyd pellach yn disgrifio gwaith ailosod ac adfer y Cyngor wrth i'r ddau faes gwasanaeth symud ymlaen yn dilyn y cyfyngiadau symud, gan gynnwys ystyried effaith tymor canolig a thymor hir Covid-19. Heb os, mae heriau enfawr ar y gweill o ran Addysg a Gwasanaethau i Blant, wrth i'r cyfyngiadau cenedlaethol gael eu llacio. Bydd y Pwyllgor Craffu - Plant a Phobl Ifainc yn parhau i graffu ar y cynlluniau adfer a derbyn diweddariadau o ran addysg bob tymor i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau.

Mae'n bwysig pwysleisio, er ei fod yn flaenoriaeth, nad yw gwaith y Pwyllgor Craffu - Plant a Phobl Ifainc wedi'i gyfyngu'n llwyr i ymateb yr awdurdod lleol i Covid-19. Ym mis Chwefror 2021, gwnaethon ni wahodd cynrychiolwyr o Gonsortiwm Canolbarth y De i gyfarfod, a hynny er mwyn dal ati i herio ei ddulliau o ddatblygu system a arweinir gan ysgolion, a sicrhau bod y gwasanaeth a gaiff ei ddarparu ar ran pum awdurdod lleol RhCT, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Bro Morgannwg a Chaerdydd yn darparu gwerth am arian. Mae'r gwaith monitro cyflawniad yma yn haeddu adolygiad rheolaidd o'i gyfraniad at godi safonau yn ysgolion RhCT.

O ran cylch gwaith addysg y Pwyllgor, ymhlith llawer o feysydd eraill, rydym hefyd wedi craffu ar ddarpariaeth ac effeithiolrwydd gwasanaethau cwnsela ar gyfer plant a phobl ifainc yn Rhondda Cynon Taf a'r camau a amlinellir yng Nghynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg (WESP) y Cyngor ar gyfer y cyfnod rhwng 2017 a 2020 fel a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru (LlC).

Yn unol â'n hymrwymiad i dderbyn diweddariadau rheolaidd ar waith Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifainc Cwm Taf Morgannwg (CAMHS) o ran trawsnewid gofal iechyd meddwl plant a phobl ifainc yn ein cymunedau a'n hysgolion, gwnaethon ni groesawu'r diweddariad eleni, yn enwedig am iddo fynd i'r afael â'r heriau ychwanegol y mae pobl ifanc yn eu hwynebu yn dilyn pandemig Covid-19. Roedd hi'n galonogol i'r Pwyllgor glywed bod y gwasanaethau wedi'u cynnal trwy gydol y pandemig, gyda darpariaeth wyneb yn wyneb hanfodol a pharhaus yn dal i ddigwydd yn ôl yr angen.

Ym mis Gorffennaf 2020 cyfeiriwyd Rhybudd o Gynnig gan y Cyngor at y Pwyllgor Craffu - Plant a Phobl Ifainc, gan roi cyfle inni ystyried a chraffu ar y gwasanaethau cyfredol i ffrindiau ac aelodau o'r teulu sy'n darparu gofal (kinship care) yn unol â dyletswyddau statudol y Cyngor. Gwnaethom wahodd cynigydd ac eiliwr y Rhybudd o Gynnig i'n cyfarfod agoriadol lle gwnaethon ni ddysgu y bu cynnydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn nifer y plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth  cymeradwy sy'n deulu neu'n ffrindiau a nifer y rhieni maeth sy'n deulu neu'n ffrindiau ac sydd wedi'u cymeradwyo. Byddwn yn gwahodd cynrychiolwyr o'r sefydliad 'Grandparents Plus' i gam nesaf ein trafodaethau, gyda'r bwriad o atgyfnerthu'r cysylltiadau rhyngddo a'r awdurdod lleol er mwyn gwella'r gefnogaeth i gynhalwyr sy'n deulu neu'n ffrindiau ledled y rhanbarth, a hynny cyn gwneud ein hargymhellion.

Wrth i ni gymryd eiliad i fyfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf hon, mae modd bod yn falch o'r gwaith a gyflawnwyd a'r nodau y gwnaethon ni eu cyrraedd yn dilyn nifer fawr o gyfarfodydd rhithwir. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn frwdfrydig at flwyddyn nesaf y Cyngor. Mae gyda ni lawer i'w gyflawni yn y flwyddyn sydd i ddod.

Wedi ei bostio ar 05/05/21