Wedi ei bostio ar 28/05/21
Mae COVID-19 wedi cael effaith enfawr ar bob rhan o'r sector iechyd a gofal cymdeithasol wrth ymateb i'r argyfwng cenedlaethol. Mae'r ymateb gan y gwasanaethau gwasanaethau i oedolion, gan gynnwys y darparwyr, wedi bod yn hollbwysig ac mae'r Pwyllgor Craffu - Iechyd a Lles wedi craffu ar y gwaith yma'n gyson yn rhan o'i raglen waith. Mae Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Oedolion wedi rhannu’r newyddion diweddaraf gyda ni’n gyson ac rydyn ni wedi mynd ati i adolygu sut mae'r gwasanaeth wedi addasu’r modd o flaenoriaethu'r gwasanaethau a mabwysiadu dulliau newydd o weithio trwy gydol y cyfyngiadau sy'n newid o hyd.
Roedden ni wedi gofyn am ragor o wybodaeth ynghylch yr ystod eang o becynnau cymorth sydd ar gael i gynhalwyr yn ystod y pandemig i sicrhau bod cynhalwyr yn derbyn cymorth digonol a bod gwasanaethau seibiant yn parhau i gael eu cynnal. Yn gynharach eleni, yn dilyn diweddariad manwl, roedden ni wedi adolygu nifer y cynlluniau a'r grantiau sydd ar waith i gefnogi anghenion ein cynhalwyr sy'n oedolion.
Mae cylch gorchwyl y Pwyllgor hefyd yn cynnwys Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd y Cyngor, roedden ni wedi craffu ar y maes gwasanaeth yma a'i flaenoriaethau yn ystod y pandemig. Cafodd y Gwasanaethau Rheoleiddio, gan gynnwys Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach, Trwyddedu a Diogelwch y Cyhoedd, eu herio gan ddeddfwriaeth newydd a chyfarwyddyd i sicrhau bod modd iddyn nhw gefnogi busnesau a darparu sicrwydd bod y mesurau newydd sydd eu hangen yn cael eu rhoi ar waith ledled y Fwrdeistref Sirol. Yn ogystal â hynny, roedd swyddogion o fewn y sectorau yma hefyd ynghlwm â gwaith y Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau Rhanbarthol ac ym mis Awst 2020 daeth Cyngor RhCT yn gyfrifol am y cynllun yn ardal Cwm Taf Morgannwg.
Roedden ni wedi gofyn am ddiweddariad mewn perthynas â'r Strategaeth Ddigartrefedd ar gyfer 2018-2022, o ganlyniad i'r effaith sylweddol y mae COVID-19 wedi'i chael ar y gwasanaeth digartrefedd. Bydd y strategaeth yma'n cyrraedd ei blwyddyn olaf cyn bo hir, rydyn ni wedi adolygu'r camau gweithredu sydd wedi'u cyflawni ers 2018. Bydd y Pwyllgor yn parhau i dderbyn y newyddion diweddaraf mewn perthynas â'r Strategaeth Ddigartrefedd ar gyfer 2018/2022 i sicrhau bod y cynllun gweithredu yn parhau i fod yn addas at y diben.
Rydyn ni wedi parhau i gyflawni gwaith craffu ar effaith trosglwyddo cyfleuster cynelu cŵn i Hope Rescue. Yn fwy diweddar rydyn ni wedi adolygu'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng Hope Rescue a'r Cyngor, i sicrhau ei fod yn addas at y diben. Roedd yn amlwg bod y Cytundeb Lefel Gwasanaeth wedi cryfhau'r ddarpariaeth o ran mynd i'r afael â chŵn crwydr, felly roedden ni wedi cefnogi'r cynnig i adnewyddu'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth.
Bydd gwaith craffu mewn perthynas â'r mesurau adfer ar gyfer y meysydd gwasanaeth yn ogystal â iechyd a lles y gweithlu yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'n pwyllgor wrth inni symud i'r flwyddyn nesaf. Rydym yn edrych ymlaen at ganolbwyntio ar y gwasanaethau hanfodol sy'n rhan o gylch gorchwyl y pwyllgor yma a'r materion allweddol fel y'u diffinnir gan ei gylch gorchwyl.
Wedi ei bostio ar 28/05/21