Skip to main content
eisteddfod-banner-RCT

Croeso i'r Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru, un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop, yn dod i Rondda Cynon Taf ym mis Awst 2024, wedi'i chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Bydd lleoliad y Maes a'r dyddiadau swyddogol yn cael eu cyhoeddi yn 2023.

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad o ddiwylliant Cymreig, cymysgedd o gystadlaethau talent a chyngherddau gyda'r nos, gigiau, dramâu, arddangosfeydd a llawer yn rhagor. Mae’n achlysur hwyl i'r teulu sy'n annog pawb (siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg) i ddod i brofi'r cyfuniad unigryw o  gystadlu a gŵyl.

Gallwch chi ddysgu rhagor am yr Eisteddfod a beth i'w ddisgwyl ar y Maes drwy glicio ar y ddolen isod

Prosiect Cymunedol Rhondda Cynon Taf

Mae Carfan yr Eisteddfod wedi bod yn gweithio dros y misoedd diwethaf i gynnal achlysuron peilot lleol yn Rhondda Cynon Taf gyda'r nod o hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Mae'r prosiect cymunedol wedi bod yn targedu pobl sydd yn newydd i'r iaith, sydd wedi colli gafael ar yr iaith neu heb ddechrau dysgu eto'n bennaf.

Gallwch chi ddod o hyd i ragor am y prosiect cymunedol drwy ddarllen rhifyn diweddaraf Cylchlythyr Cymunedol Eisteddfod 2024.

Bwriwch olwg ar dudalen Eisteddfod 2024 er mwyn cael y newyddion diweddaraf am beth sy'n digwydd yn eich ardal leol chi.

Ymweld â Rhondda Cynon Taf

Yr hyn rydych chi efallai wedi'i fethu yng Ngheredigion 2022