Skip to main content

Diwrnod y Lluoedd Arfog

 
 
Lleoliad
Parc Aberdâr
Date(s)
Dydd Sadwrn 1 Gorffennaf 2017
Disgrifiad

Amser:- 12pm tan 4pm

Bydd y diwrnod yn dechrau am 11am gan ddadorchuddio hysbysfwrdd newydd tu allan i Ganolfan Adnoddau Tegfan, Aberdâr. Roedd y canolfan yn Ysbyty Milwrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a gafodd ei redeg gan nyrsys Y Groes Goch. 

Yn dilyn yr orymdaith bydd naid barasiwt wedi'i pherfformio gan dîm byd-enwog y Red Devils, Tîm Arddangos Catrawd Parasiwt Byddin Prydain @ 12:00, Yn ddibynnol ar y tywydd, , ac wedyn seremoni codi'r faner. 

Bydd modd i ni i gyd ddathlu gwaith y Lluoedd Arfog gyda llawer o hwyl ac atyniadau i'r teulu cyfan o gwmpas Parc Aberdâr.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau i goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r Cyngor hefyd yn falch o’r Cyfamod Cymunedol. Mae’n dangos ymrwymiad at gyn-aelodau ac aelodau presennol y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd, boed yn gymorth ariannol neu arwain y ffordd at wasanaethau cymorth. 

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch achlysuron@rhondda-cynon-taf.gov.uk neu ffoniwch 01443 424123

Parcio AM DDIM ar gael yn Coleg y Cymoedd, Cwmdare Road, CF44 8ST, a Theatr y Colisëwm, Aberdâr, CF44 8NG – y ddau’n agos i Barc Aberdâr.  Mae cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn dda ac mae arosfannau bysiau lleol yn dafliad carreg o’r mynedfeydd.