Skip to main content

Noson Gwis boblogaidd Elusen y Maer

 
 
Lleoliad
Heol Sardis., Nghlwb Rygbi Pontypridd
Date(s)
Dydd Gwener 13 Hydref 2017
Disgrifiad

Amser: 19:00

Noson Gwis boblogaidd Elusen y Maer. Fe'i cynhelir nos Wener 13 Hydref yng Nghlwb Rygbi Pontypridd, Heol Sardis.

Rydw i'n gwahodd timau o hyd at chwech o bobl i gymryd rhan, a bydd yr holl enillion yn mynd i Apêl Elusennau'r Maer.

Ian Cooper fydd cyflwynydd y cwis. Bydd cwestiynau ar gymysgedd o wybodaeth gyffredinol, chwaraeon, cerddoriaeth, a ffilmiau. Rydyn ni'n gofyn i dimau gyrraedd am 6.45pm, er mwyn dechrau am 7.00pm. Bydd bwffe yn ystod yr egwyl ac mae tocynnau'n £5 y pen.

I gadw lle i'ch tîm, ffoniwch Swyddfa'r Maer ar 01443 424048 neu e-bostio maer@rhondda-cynon-taf.gov.uk.

Cafodd tocynnau i'r achlysur yma ym mis Ebrill diwethaf eu gwerthu'n gyflym. Brysiwch i gofrestru eich tîm chi nawr.

Bydd yr holl enillion o'r Noson yn mynd at fy Apêl Elusennau.

  • Cyfeillion yr Anifeiliaid Cymru,
  • Cŵn Tywys Cymru,
  • Cymdeithas Alzheimer Cymru
  • Cyfeillion Ysbyty Gofal Lliniarol y Bwthyn.