Pres a Lleisiau – Dathlu 50 mlynedd o gysylltiadau gefeillio rhyngwladol yn Rhondda Cynon Taf.
Ymunwch â ni i roi croeso cynnes i'n gwesteion o gefeilldrefi rhyngwladol yn Eglwys Santes Catrin, Pontypridd. Bydd hi'n noson lawn perfformiadau ardderchog gan rai o ddoniau gorau byd cerdd ar draws Rhondda Cynon Taf,
Y perfformwyr fydd:
- Lewis-Merthyr Band
- Côr Meibion Pontypridd
- Côr Ieuenctid The Glam
- Beverley Humphreys yn cyflwyno
Mae hi'n hanner can mlynedd ers hyrwyddo'n hardal a chymunedau lleol ar draws Ewrop a phedwar ban byd trwy gysylltiadau gefeillio. Ar gyfer y pen-blwydd nodedig yma, byddwn ni'n croesawu gwesteion o Nürtingen (Yr Almaen), Wolfenbuttel (Yr Almaen) a Ravensburg (Yr Almaen). Felly ymunwch â ni wrth inni estyn croeso cynnes y Cymoedd i'n gwesteion rhyngwladol.