Skip to main content

Sioe Ceir Clasur 2018

 
 
Date(s)
Dydd Sadwrn 16 Mehefin 2018
Disgrifiad
Classic-Car-show-Thumbnail
Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda fydd pen pob taith yr Haf yma wrth i drefnwyr baratoi ar gyfer Sioe Ceir Clasur 2018!

Mae'r achlysur yn dychwelyd i'r Parc Treftadaeth yn dilyn galw mawr. Camwch yn ôl mewn amser a myfyrio ynghylch atgofion melys o deithio ar hyd y ffyrdd agored neu synnwch ar foduron y cyfnod, sydd bellach yn fodelau clasur.

Bydd Sioe Ceir Clasur 2018 yn cael ei chynnal yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, ddydd Sadwrn, 16 Mehefin. Pris mynediad yw £2 fesul oedolion neu AM DDIM i blant dan 5 oed.

Mae'r Cyngor yn falch iawn o gyhoeddi bod Sioe Ceir Clasur yn dychwelyd i'r Fwrdeistref Sirol eleni, mewn partneriaeth â Chlwb Ceir Clasur Morgannwg. Dyma anrheg gynnar berffaith ar gyfer Sul y Tadau, sydd y diwrnod canlynol. Bydd Ffair Grefftau Gymreig, wedi'i threfnu gan Craft of Hearts, yn cael ei chynnal yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, ddydd Sadwrn, 16 Mehefin.

Bydd Sioe Ceir Clasur 2018 yn cael ei chynnal ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda ddydd Sadwrn, 16 Mehefin, rhwng 10.30am a 4.30pm. Pris mynediad yw £2 fesul oedolion neu AM DDIM i blant dan 5 oed.