Skip to main content

Taith Gerdded Llantrisant 2018

 
 
Lleoliad
Llantrisant Leisure Centre
Date(s)
Dydd Sul 2 Medi 2018
Cyswllt

Ffoniwch y Garfan Gofal Cefnogwyr ar 0300 1000 200 neu e-bostiwch fundraising@macmillan.org.uk

Disgrifiad

Amser: 11am - 4pm

Ymunwch â ni ar gyfer Taith Gerdded wych arall yn Llantrisant i'n helpu i adeiladu Y Bwthyn. Mae Grŵp Codi Arian Pont-y-clun a'r Cylch yn eich gwahodd i ymuno â ni am ein trydedd Daith Gerdded flynyddol yn Llantrisant i'n helpu i adeiladu Y Bwthyn. Mae Macmillan ac Awdurdod Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn adeiladu'r uned gofal arbenigol newydd gwerth £7miliwn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant ac mae angen arnon ni eich help i'w hadeiladu. Mae Macmillan yn cyfrannu £5miliwn tuag at yr uned newydd a dyma fydd ein buddsoddiad mwyaf yng Nghymru.

Hyd yn hyn, mae Taith Gerdded Llantrisant wedi codi dros £24,000 felly ymunwch â ni, a dewch i fod yn rhan o rywbeth arbennig a'n helpu ni i godi hyd yn oed rhagor o arian eleni. Ar y Daith Gerdded eleni mae dau lwybr ar gael: un yn 4 milltir ac un yn 8 milltir, yn dechrau ac yn gorffen yng Nghanolfan Hamdden Llantrisant. Mae'r llwybr yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn, cadeiriau gwthio a phlant, ac mae'n ddelfrydol ar gyfer cerddwyr newydd a phrofiadol a hyd yn oed cŵn.

Mae modd i chi gofrestru o 9am yng Nghanolfan Hamdden Llantrisant ac mae'r daith gerdded yn cychwyn o'r ganolfan am 11am ar gyfer y llwybr 8 milltir ac 11.30am ar gyfer y llwybr 4 milltir. Bydd castell neidio, adloniant am ddim a lluniaeth ysgafn yn cael eu darparu o 1pm. £10.00.

Os hoffech chi ddod â'r teulu ar Daith Gerdded Llantrisant eleni, mae modd i bobl dan 12 oed gerdded am ddim. Rhaid i bawb dan 12 oed fod wedi eu cofrestru ar y diwrnod a rhaid iddyn nhw fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Bydd plant yn derbyn medal am gymryd rhan Nhaith Gerdded Llantrisant ond does dim modd i ni ddarparu crysau-t.