Skip to main content

Ffair Swyddi – Canolfan Hamdden Sobell, Aberdâr

 
 
Lleoliad
Canolfan Hamdden Sobell
Date(s)
Dydd Mercher 6 Mawrth 2019
Disgrifiad

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnal Ffair Swyddi arall AM DDIM , ddydd Mercher, 6 Mawrth 2019, yng Nghanolfan Hamdden Sobell, Aberdâr, 10.00am-6.00pm.

Bydd y Ffair Swyddi yn cael ei chynnal yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, ble bydd cyflogwyr a phrentisiaid o ledled Cymru yn dod at ei gilydd i ddathlu llwyddiant prentisiaethau wrth gefnogi rhagor o bobl i ddewis prentisiaeth yn llwybr tuag at yrfa.

Bydd yn cynnig cyfle arbennig i ddysgu ragor am brentisiaethau, rhaglenni i raddedigion a swyddi eraill sydd ar gael yn y Cyngor a thu hwnt. Bydd nifer fawr o gwmnïau'r sector preifat a'r sector cyhoeddus yn bresennol. 

Mae'r ffair am ddim ac yn croesawu pobl o bob oed sydd eisiau cyngor ar ba lwybrau at gyflogaeth sydd ar gael iddyn nhw.

Bydd yr achlysur hefyd yn cynnig cyfle da i bobl gwrdd ag amrywiaeth o fusnesau sydd ag enw da yn yr ardal leol, yn ogystal â chynnig cyfle i bobl ifanc sydd ar fin gadael addysg i wybod am nifer o opsiynau o ran gyrfa sydd ar gael iddyn nhw. 

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rhondda-cynon-taf.gov.uk xgweld ein cwestiwn a ofynnir yn aml

Gweld y cyflogwyr fydd yn mynychu

  • Abacare
  • BAM Nuttall
  • Barratt Homes
  • Care Cymru
  • Connect Assist
  • Cottam and Brookes Engineering Ltd
  • Bwrdd Iech Prifysgol Cwm Taf
  • Drive
  • EE
  • GE
  • Hazelwood Carpentry
  • CThEM
  • Mears
  • Rhwydwaith 75
  • Philtronics
  • Principality
  • Radis Care
  • Cyngor RhCT
  • Royal Navy
  • SAM Drylining
  • Gwasanaeth Tân De Cymru
  • Heddlu De Cymru
  • Tectonic
  • Trivallis
  • Dŵr Cymru
  • Yprentis
  • Gwasanaethau Dysgu Apollo
  • Interserve
  • Gyrfa Cymru
  • Elite Paper Solutions
  • Ensinger
  • Maethu yn RhCT
  • Morgan Sindall
  • Randstad
  • Stagecoach
  • Cefnogaeth yn y Cartref RhCT
  • Wicid.tv
  • Rubicon
  • Awyrlu Frenhinol
  • Gwesty Parc Treftadaeth
  • Trafnidiaeth Cymru
  • Chwarae Teg
  • Chwarae Chwaraeon
  • Avon
  • Capgemini
 

**Nodwch, mae modd i’r cyflogwyr newid**