Skip to main content

Rhialtwch Calan Gaeaf

 
 
Lleoliad
Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda
Date(s)
Dydd Mawrth 29 - Dydd Iau 31 Hydref 2019
Cyswllt

Tocynnau ar werth yma

01443 682036

Disgrifiad
SpookCYM 500x263

10:00 - 16:00

£5 y plentyn. Oedolion AM DDIM! Tocyn yn cynnwys:

  • Helfa Pwmpenni – Casglwch eich taflen waith ac ewch ati i ddarganfod ein pwmpenni, cofiwch gasglu'r holl symbolau ac efallai cewch chi losin (neu lanast!).
  • Creu Mygydau – Casglwch dempled eich mwgwd ac ewch at bob un o'r gorsafoedd celf rhyngweithiol gan ychwanegu rhagor o addurniadau at eich mwgwd ar bob gorsaf.
  • Sioe Calan Gaeaf – Ymunwch â'r hwyl a sbri gyda'r cyflwynydd teledu i blant a diddanwr, Chunkie Russell, wrth iddo ddychwelyd i ddathu Calan Gaeaf gyda ni!

Pethau ychwanegol:

£2 Taith Arswydus  - Ymunwch â’n glowyr a mentro o dan ddaear i'r pwll glo; byddwch chi'n cwrdd â chymeriadau brawychus ar hyd y ffordd a'r pethau sy'n creu sŵn yn y nos. Mae’r gweithgareddau wedi'u cynllunio ar gyfer plant ond efallai fyddan nhw ddim yn addas ar gyfer ymwelwyr iau nad ydyn nhw’n hoffi’r tywyllwch.

*Mae amseroedd yn amrywio, cadwch le ar-lein ymlaen llaw er mwyn osgoi cael eich siomi.

£5 Gweithdy Craft of Hearts - Ymunwch â gwrachod a bod yn greadigol gyda glitter, paent a glud wrth i chi greu ffyn hud neu dai gwrachod bach. Mae pob sesiwn yn para hyd at 1 awr, rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. Rhaid i blant fod yn 4 oed.

*Cadwch le ar-lein ymlaen llaw er mwyn osgoi cael eich siomi.

Submit An Event

Cysylltwch â ni

Carfan Achlysuron Rhondda Cynon Taf

Ebost: achlysuron@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 424123

facebook-Logo-Square
Twitter-Square