Skip to main content

Ffair Lyfrau Cwm Rhondda 2019

 
 
Lleoliad
Canolfan Cymuned Capel SOAR ym Mhen-y-graig, CF40 1JZ.
Date(s)
Dydd Sadwrn 7 Medi 2019
Disgrifiad
Book Fair

10:30 - 16:00

Dyma bumed Ffair Lyfrau Cwm Rhondda ac mae AM DDIM. Colin R Parsons yw'r trefnydd. Bydd theatr yn llawn awduron yng Nghanolfan Cymuned Capel SOAR ym Mhen-y-graig. Cewch sgwrsio gyda nhw a phrynu copïau wedi'u llofnodi o'u gwaith. Mae croeso i bawb o deuluoedd ifanc i'r gymuned hŷn.

Bydd te, coffi a diodydd ysgafn ar werth. Gwestai arbennig eleni yw Tim Lebbon, awdur arobryn, ffantasi, ffuglen wyddonol a goruwchnaturiol. Mae ganddo ddwy ffilm ar Netflix - 'Pay the Ghost' a 'The Silence'. Bydd Tim yn cael ei gyfweld am 3pm gan Matt Lees. Drwy gydol y dydd bydd amryw o baneli awdur a raffl. Dewch draw. Mae'r achlysur a'r paneli i gyd AM DDIM!

Cysylltwch â mi os hoffech chi gael rhagor o fanylion. Ewch i "Contact Page" ar fy ngwefan: www.colinrparsons.com                   

Submit An Event

Cysylltwch â ni

Carfan Achlysuron Rhondda Cynon Taf

Ebost: achlysuron@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 424123

facebook-Logo-Square
Twitter-Square