Skip to main content

Rhondda Cynon Taf Ffair Swyddi y Cwrdd â'r Prynwyr

 
 
Lleoliad
Llys Cadwyn
Date(s)
Dydd Mercher 26 Chwefror 2020
Cyswllt
Ebost - EETT@rctcbc.gov.uk
Disgrifiad

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnal ei Ffair Swyddi hynod lwyddiannus ac am y tro cyntaf bydd yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â'n Carfan Caffael a'i hachlysur 'Cwrdd â'r Prynwyr'.

Bydd amrywiaeth enfawr o ddarpar gyflogwyr wrth law i gwrdd â chi. Gall y rhai sy'n chwilio am gyflogaeth neu sydd am symud ymlaen yn eu gyrfa neu wella'u haddysg ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ystod yr achlysur.

Os ydych yn chwilio am gyfleoedd i ddatblygu eich busnes, dewch draw i gwrdd â Charfan Caffael Cyngor Rhondda Cynon Taf i ddarganfod sut mae'r broses gaffael yn gweithio.  Gallwch hefyd gwrdd â sefydliadau'r sector cyhoeddus, cyflogwyr lleol yn ogystal â rhai o'n contractwyr a'n cyflenwyr rydyn ni wedi'u penodi i drafod cyfleoedd busnes posibl.  Bydd cyrff cefnogi hefyd wrth law i roi cyngor a gwybodaeth am wasanaethau defnyddiol megis cyllid, cymorth tendro a chymorth i gychwyn.

Bydd yr achlysur yn cael ei gynnal yn adeilad newydd Llys Cadwyn ym Mhontypridd ddydd Mercher, 26 Chwefror.  Bydd ar agor o 10:00am tan 4:00pm i aelodau'r cyhoedd. 

Byddwn hefyd yn cael awr dawel o 9:00am ar gyfer pobl sydd â chyflwr sbectrwm awtistig ac anableddau eraill.

Bydd yr achlysur yn cynnwys ystod eang o dros 40 o gyflogwyr, sydd i gyd yn ceisio hyrwyddo a rhannu eu gyrfaoedd a'u cyfleoedd hyfforddi.

Bydd yr achlysur hefyd yn cynnwys gweithdai ar faterion allweddol fel cyfweliadau swyddi a chyngor ar sut i lenwi ffurflen gais, datblygu gyrfa mewn gofal cymdeithasol, a sesiynau gwybodaeth ar brentisiaethau gan gynnwys; fframweithiau cymhwyster, meini prawf mynediad, sectorau a rolau swyddi.

Bydd cyfle i gwrdd â'r Garfan Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant sy wedi ennill gwobrau, sy'n cydgysylltu'r rhaglen Prentisiaethau a rhaglen i Raddedigion ar gyfer Cyngor Rhondda Cynon Taf, a chanfod pryd mae recriwtio yn dechrau yn 2020.

Mae'r arddangoswyr canlynol wedi cadarnhau eu presenoldeb:

  • Abacare
  • B & Q
  • British Army
  • BT
  • Care Cymru
  • Careers Wales
  • Carers Trust South East Wales
  • Coleg y Cymoedd
  • Ensinger Precision Engineering Ltd
  • Gallagher
  • GE's
  • HMRC
  • Involve Recruitment
  • Jobcentre Plus
  • Kier Construction
  • LCB Construction
  • Morgan Sindall
  • MPS
  • Nando's UK
  • Network75 (University of South Wales)
  • New Directions Education
  • Op Chocolate
  • Peacocks/Edinburgh Woollen Mill
  • Radis Community Care
  • RCT Support @ Home
  • RCTCBC - Staying Well at Work
  • Rhondda Cynon Taf CBC
  • Royal Navy / Royal Marines
  • Rubicon Wales
  • South Wales Fire & Rescue Service
  • South Wales police
  • Transport for Wales
  • University of South Wales
  • Willmott Dixon
  • Zip World

** Efallai bydd arddangoswyr yn newid ar y diwrnod * *