4pm - 7pm
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc yn Rhondda Cynon Taf? Ydych chi wedi ystyried maethu, ond yn awyddus i ofyn rhagor o gwestiynau? Ydych chi’n rhiant maeth gydag asiantaeth arall, ond yn ystyried symud? Os ydych wedi ateb ‘ydw’ i unrhyw un o’r cwestiynau yna, mae angen i chi ddod i’r achlysur yma!
Mae 'Dysgu rhagor am Faethu' yn gyfle i ddeall sut brofiad yn union yw bod yn rhiant maeth yng Nghyngor Sir Rhondda Cynon Taf. Bydd cyfle i chi siarad â rhieni maeth profiadol a'n carfan cefnogi maethu a chael yr atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.
Byddwn yng Ngwesty Heritage Park yn barod i'ch croesawu o 4.00pm tan 7.00pm. Mae ein rhieni maeth presennol wedi dweud y bydden nhw wedi elwa'n fawr o gael achlysur tebyg i hwn cyn dechrau maethu, felly peidiwch â cholli'r cyfle hwn.
Ymunwch â ni ddydd Mercher 29 Ionawr rhwng 4pm a 7pm
yng Ngwesty Heritage Park, Heol Coedcae, Pontypridd, CF37 2NP