Rydych chi'n gwybod bod yr haf wedi cyrraedd pan mae'n gwesteion ni ar gyfer Cegaid o Fwyd Cymru ym Mharc Coffa Ynysangharad wedi'u cadarnhau.
Mae'r achlysur poblogaidd yma'n dychwelyd ar 6 a 7 Awst ac yn dathlu'r fraint o fyw yn Rhondda Cynon Taf. Bydd y dathliadau'n cynnwys sioeau ac arddangosfeydd arena am ddim, arddangosiadau coginio gyda chogydd enwog, amrywiaeth eang o fwyd, diod a danteithion i'w blasu a'u prynu, a llawer mwy - a'r cyfan i gyd ynghanol harddwch y parc!
Bydd yr achlysur ar agor ddydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 11am a 5pm ac yn cynnwys perfformiadau arena byw gan
- Sioe Styntiau Beiciau Modur Savage Skills
- Arddangosiadau a thriciau Parkour
- Sioeau ac arddangosiadau adar prydferth gan Black Mountains Falconry
- Hel hwyaid gyda chŵn defaid
Bydd fferm anwesu anifeiliaid yn y parc hefyd, ynghyd â phentref lles. Yn y pentref lles fe fydd modd i chi wneud gweithgareddau, a chael gwybodaeth gan arbenigwyr iechyd. Bydd gardd gwrw yno hefyd, yn gweini diodydd o'r bragdai lleol sy'n chwifio'r faner (neu'n codi gwydryn) i'r fwrdeistref sirol.
Yn ogystal â hynny i gyd, bydd Nerys Howell yn ymuno â'n cogydd Geoff Tookey i wneud arddangosiad byw. Mae Nerys wedi cyhoeddi ystod o lyfrau coginio dwyieithog yn dangos sut i wneud y mwyaf o'r holl gynyrch blasus lleol y mae modd ei fwynhau yng Nghymru.
Cadwch lygaid allan am y mascots poblogaidd Peach a Tomato, y cogydd ar stiltiau a'n ffrindiau newydd ni, y Gwenyn Prysur.
Ar ôl mwynhau'r holl hwyl ac adloniant am ddim, mwynhewch gegaid o fwyd Cymru, neu ewch â danteithion gartref gyda chi - bydd amrywiaeth eang o stondinau bwyd a diod yno. Efallai y byddwch chi'n hoffi ymweld â'r ffair hefyd (bydd raid talu i fynd ar y reidiau).
Wrth gwrs, mae Parc Coffa Ynysangharad hefyd yn gartref i Lido Ponty a Pharc Chwarae'r Lido, felly mae digonedd i'w wneud a'i fwynhau ochr yn ochr â'r ŵyl fwydydd!
Efallai byddech chi'n hoffi pigo i mewn i Bontypridd a phori drwy'r siopau neu grwydro'r Farchnad neu ardal Stryd y Felin - y ddau ar eu newydd wedd.
Mae Cegaid o Fwyd Cymru 2022 wedi'i noddi gan gwmni Nathaniel Cars. Mae ei staff cyfeillgar yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn darparu ceir i drigolion Rhondda Cynon Taf a thu hwnt am fwy na 25 mlynedd.
Ac hwythau'n frwd i ddangos eu cefnogaeth a'u gwerthfawrogiad o'r gymuned, maen nhw wedi noddi nifer o achlysuron Be' Sy Mlaen RhCT yn 2022, gan ddod â hwyl ac adloniant i'r bobl.
I wybod rhagor am weddill achlysuron RhCT eleni, ewch i www.rhondda-cynon-taf.gov.uk/achlysuron