Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnal nifer o achlysuron cymunedol er mwyn dweud diolch ac i gydnabod cyfraniad eithriadol y gymuned yn ystod pandemig y Coronafeirws hyd yn hyn.
Mae'r achlysuron i ddweud diolch yn cael eu cynnal er mwyn nodi Cyflwyniad Rhyddfraint y Fwrdeistref Sirol ar gyfer holl weithwyr allweddol Rhondda Cynon Taf, er mwyn cydnabod eu cyfraniad eithriadol, ymrwymiad a dewrder yn ystod pandemig y Coronafeirws.
Bydd seremoni swyddogol y Cyflwyniad yn cael ei chynnal yn ystod yr achlysur cyntaf ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf.
Bydd dau achlysur arall yn cael eu cynnal er mwyn dweud diolch, gyda'r un cyntaf ym Mharc y Gelligaled, Ystrad, ddydd Sadwrn 16 Gorffennaf a'r ail un ym Mharc Aberdâr, Aberdâr, ddydd Sadwrn, 23 Gorffennaf.
Dyma fydd y drefn:
Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd. Ddydd Sadwrn, 9 Gorffennaf. 11am–4pm
Mae'r achlysur yn dechrau gyda seremoni i gyflwyno Rhyddfraint y Fwrdeistref i holl weithwyr rheng flaen Rhondda Cynon Taf.
Gweithdy sgiliau syrcas, sioe styntiau Parkour a fferm anwesu anifeiliaid am ddim.
Reidiau ffair ar gyfer plant bach, castell neidio, paentio wynebau, teithiau ar gefn asyn, cael blas ar ogofa, wal ddringo, teithiau segway a thrampalino (£1 y person ar gyfer pob reid/gweithgaredd).
Bydd cerbyd gwerthu byrgyrs, stondin gwerthu losin, cerbyd gwerthu hufen iâ a cherbyd gwerthu crempogau ar y safle pe hoffech chi brynu bwyd.
Parc y Gelligaled, Ystrad. Ddydd Sadwrn, 16 Gorffennaf. 11am–4pm
Gweithdy sgiliau syrcas, modelu balŵns a sioe styntiau Parkour am ddim.
Reidiau ffair ar gyfer plant bach, castell neidio, paentio wynebau, teithiau ar gefn asyn, cael blas ar ogofa, wal ddringo a theithiau segway (£1 y person ar gyfer pob reid/gweithgaredd).
Bydd cerbyd gwerthu byrgyrs, stondin gwerthu losin, cerbyd gwerthu hufen iâ a cherbyd gwerthu crempogau ar y safle pe hoffech chi brynu bwyd.
Parc Aberdâr, Aberdâr. Ddydd Sadwrn, 23 Gorffennaf. 11am–4pm
Gweithdy sgiliau syrcas, sioe styntiau Parkour a fferm anwesu anifeiliaid am ddim.
Reidiau ffair ar gyfer plant bach, castell neidio, paentio wynebau, teithiau ar gefn asyn, wal ddringo a theithiau segway (£1 y person ar gyfer pob reid/gweithgaredd).
Bydd cerbyd gwerthu byrgyrs, stondin gwerthu losin, cerbyd gwerthu hufen iâ a cherbyd gwerthu crempogau ar y safle pe hoffech chi brynu bwyd.