Skip to main content

Gwyl Aberdar

 
 
Lleoliad
Aberdare Park
Date(s)
Dydd Gwener 3 - Dydd Sadwrn 4 Mehefin 2022
Cyswllt
https://www.rctcbc.gov.uk/EN/Events/AberdareFestival/AberdareFestival.aspx
Disgrifiad
Land Train

Croeso'n ôl i Ŵyl Aberdâr – dathliad deuddydd llawn hwyl a chyffro i ddathlu ei bod yn ôl!

Mae'r achlysur poblogaidd wedi ymestyn eleni i gynnwys dathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines.

Bydd hwyl i'r teulu cyfan am ddim, a hefyd ffair, stondinau bwyd ac adloniant byw ar gael yn yr ŵyl ar 3 a 4 Mehefin.

Bydd gweithgareddau ac atyniadau eraill yn cael eu cadarnhau dros y misoedd nesaf, ond yn sicr, byddwch chi a'r teulu'n mwynhau mas draw yn ystod deuddydd yr ŵyl, ac i goroni'r cyfan, mae dathliad brenhinol hefyd.

Noddir Gŵyl Aberdâr 2022 gan Nathaniel Cars, sydd wedi bod yn gwerthu ceir i drigolion Rhondda Cynon Taf a thu hwnt ers mwy na 35 mlynedd. Mae gan y cwmni dibynadwy yma safleoedd yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.