Skip to main content

Dyma gyflwyno Llyfrgell Pobl Cymru

 
 
Lleoliad
Pontypridd Library
Date(s)
Dydd Sadwrn 7 Mai 2022
Disgrifiad

Dewch i fwynhau achlysur Llyfrgell Pobl Cymru cyntaf RhCT – dyma gasgliad llyfrgell lle mae'r llyfrau'n bobl. Benthycwch lyfr byw am sgwrs 30 munud. Ailgysylltwch a chwalu ystrydebau. Am ragor o fanylion am y llyfrau sydd ar gael, gweler isod;   I drefnu sgwrs Ffon Llyfrygell Pontypridd 01443 562211 neu ofyn wrth gownter y llyfrgell.

Name

Story

Emma Daley

Cam-drin domestig

Abyd Quinn Aziz

Mae Abyd yn gefnogwr i dîm Lerpwl ac yn Mwslim Ismaili gyda threftadaeth Indiaidd a gafodd ei eni yn Nwyrain Affrica. Fe’i magwyd yn Llundain a phrofodd hiliaeth a dysgodd bopeth am wahaniaethu. Bydd yn rhannu ei stori gyda chi ac yn sôn am nawr fod adref yng Nghymru a’r materion sy’n wynebu Cymru amlddiwylliannol.

Alice (renamed from Olivia)

Mae gan Alice stori i’w hadrodd am fudo o Ddwyrain Ewrop a gall ddwyn i gof ei brwydrau gyda thrais domestig yn y DU, dod yn fam, a dod o hyd i fywyd mwy sefydlog yng Nghymru.

Roy Meredith

Mae rhai pobl yn siarad yn ddiystyriol am dreftadaeth ddiwydiannol Cymru. Bu Roy yn gweithio dan ddaear am 25 mlynedd, a bydd yn gosod ei stori a lle mwyngloddio mewn cymunedau Cymreig. Bydd yn dod â phethau i’r oes sydd ohoni ac yn sgwrsio â chi am ba le sydd i fwyngloddio’n yng Nghymru’r 21ain ganrif

Darren Macey

 

Mae Darren wedi bod yn weithgar ym myd gwleidyddiaeth ers mwy na deng mlynedd ar hugain.  Yn gyn-gynghorydd yn RhCT, mae bellach yn darlithio mewn Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol De Cymru. Pam mae gwleidyddiaeth wedi dod yn fwyfwy pleidiol a llwythol? Ydyn ni'n cymryd llai o gyfrifoldeb am ein gweithredoedd ein hunain ac yn beio gwleidyddion am bopeth? Pam mae unigolion yn dal i sefyll am swydd er eu bod yn aml yn wynebu llifeiriant o gamdriniaeth ddigynsail? Bydd Darren yn sgwrsio â chi i geisio ateb y cwestiynau hyn ac yn dweud wrthych am y straeon y tu ôl i'r bobl hynny sy'n mentro ac ymroi i wasanaeth cyhoeddus.

Hazel

 

Mae gan Hazel stori i'w hadrodd am ddysmorphia'r corff a llawdriniaeth a fu bron â lladd ei bywyd. Mae hi wedi bod yn ddefnyddiwr gwasanaeth ac yn ddarparwr gwasanaeth. Mae hi wedi profi elfennau llymach ein gwasanaethau iechyd meddwl gyda wardiau dan glo a rhestr hir o feddyginiaethau. Mae ganddi stori unigryw i'w hadrodd.

Luke

Tyfodd Luke i fyny mewn gofal yng Nghymru mewn ysgol breswyl. Bu’n rhaid iddo adael ei wreiddiau ym Mirmingham ar ei ôl ac mae wedi parhau i fyw yng Nghymru. Bydd yn dweud wrthych am y brwydrau y mae wedi'u hwynebu i ddileu ei dag 'ymadawr gofal' a'i frwydrau i ddod o hyd i'w hunaniaeth go iawn.

Molly

Tlodi misglwyf

Barbara

Mae Babs wedi bod yn gwbl ddall ers plentyndod, ond nid yw hyn wedi ei hatal rhag byw bywyd llawn iawn a chyfrannu'n aruthrol at ei chymuned.

Mae hi wedi teithio’n annibynnol ac yn helaeth, wedi arwain grŵp Brownies lleol a grŵp cymunedol ar gyfer y rhai â nam ar eu golwg ac mae’n gantores ac yn ysgrifennwr caneuon gweithgar a thalentog.