Mae Ogof Siôn Corn yn dychwelyd i Daith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda ar gyfer 2022.
Caiff yr achlysur poblogaidd ei gynnal rhwng 19 Tachwedd a 24 Rhagfyr, gan roi cyfle i ymwelwyr fwynhau taith a phrofiad Nadoligaidd a chwrdd â Siôn Corn ei hun!
Yn ogystal â thaith hudol yn llawn pethau Nadoligaidd annisgwyl, bydd yr achlysur hefyd yn cynnwys gweithgareddau â thema a fydd yn cael eu cynnal mewn cabanau pren bach ledled y safle.
Bydd siop Nadolig ar agor er mwyn i chi ddewis yr anrheg berffaith neu ddanteithion blasus. Bydd y Chocolate House a Craft of Hearts hefyd yn cynnig gweithdai a sesiynau lle cewch wneud eich danteithion siocled eich hun neu fod yn greadigol!
Mae tocynnau ar gyfer Ogof Siôn Corn ar werth nawr ac mae modd eu prynu ar-lein yma.
Mae modd i ysgolion a grwpiau gadw lleoedd drwy ffonio’r dderbynfa ar 01443 682036.
Bydd tocynnau yn costio £11 y person neu £3 i fabanod 18 mis oed ac yn iau.
Ogof Sion Corn 2022 gan Nathaniel Cars, sydd wedi bod yn gwerthu ceir i drigolion Rhondda Cynon Taf a thu hwnt ers mwy na 35 mlynedd. Mae gan y cwmni dibynadwy yma safleoedd yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.