Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnal ei Ffair Swyddi hynod lwyddiannus y mis yma.
Bydd amrywiaeth enfawr o ddarpar gyflogwyr wrth law i gwrdd â chi. Mae modd i'r rheiny sy'n chwilio am swydd neu sydd am symud ymlaen yn eu gyrfa neu wella'u haddysg ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn y Ffair Swyddi.
Bydd yr achlysur yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Llantrisant ddydd Mercher, 22 Mawrth 2023. Mae croeso i aelodau'r cyhoedd alw heibio rhwng 10am a 2pm.
Bydd hefyd awr dawel o 1pm ar gyfer pobl sydd ag Anhwylder Sbectrwm Awtistig ac anableddau eraill.
Bydd yr achlysur yn cynnwys ystod eang o gyflogwyr, sydd i gyd yn ceisio hyrwyddo a rhannu eu cyfleoedd o ran gyrfaoedd a hyfforddiant.
Bydd yr achlysur hefyd yn cynnwys gweithdai ar faterion allweddol fel cyfweliadau swyddi a chyngor ar sut i lenwi ffurflen gais, datblygu gyrfa mewn gofal cymdeithasol, a gwybodaeth am brentisiaethau gan gynnwys fframweithiau cymhwyster, meini prawf mynediad, sectorau a rolau swyddi.
Bydd cyfle i gwrdd â'r Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant sy wedi ennill gwobrau ac sy'n cydlynu Cynllun Prentisiaeth a Rhaglen i Raddedigion Cyngor Rhondda Cynon Taf a chael gwybod pryd bydd y broses recriwtio'n cychwyn yn 2023.
Mae'r arddangoswyr canlynol wedi cadarnhau byddan nhw'n dod:
- Alpha Safety
- Arch Services
- Bluebird Care
- Care Cymru
- Drive
- Pontus Research
- Pritchard Holdings
- RTS Tree Specialist
- Rubicon
- Screen Alliance Wales
- Stagecoach
- Trivallis
- Vale Resort
- ISG
- Royal Navy
- Welsh Government
- Apollo Teaching
- Smart Solutions
- First Source
- RCT Apprenticeship & Graduate Team
- RCT Social Care Team
- Stowford Leisure
- Domino’s Pizza
- Lidl GB Ltd
- PeoplePlus
- Purolite Limited
- Valley Education Service
- Apollo Teaching Services
- Pobl Group (Relief)
- Dwr Cymru/ Welsh Water
- Gallagher
- Qcare
- PCI Pharma Services
- South Wales Fire Service
- The London Mint Office
- TT Electronics, AB Connectors Ltd
- Office for National Statistics
- Edwards Coaches Ltd
- Urdd
- Ganymede Solutions LTD
|
**Mae'n bosibl bydd arddangoswyr gwahanol yno ar y diwrnod**