Skip to main content

Achlysuron y Nadolig yng nghanol ein trefi

 
 
Lleoliad
Ferndale, Mountain Ash, Porth Plaza Car Park, Tonypandy
Date(s)
Dydd Gwener 24 Tachwedd - Dydd Sadwrn 2 Rhagfyr 2023
Cyswllt
events@rctcbc.gov.uk
Disgrifiad
XMas 2022

Mae Siôn Corn yn dychwelyd i ganol trefi lleol a bydd yn dod â mwy o hwyl yr ŵyl! 

Bydd Achlysuron y Nadolig yn cael eu cynnal yng nghanol y trefi canlynol: 

24 Tachwedd

Glynrhedynog

Maes Parcio Stryd y Leimwydden

3pm tan 6.30pm

25 Tachwedd

Porth

Maes Parcio Plaza'r Porth

12pm tan 5pm

1 Rhagfyr

Tonypandy

Maes Parcio Stryd De Winton

3pm tan 6.30pm

2 Rhagfyr

Aberpennar

Maes Parcio Stryd Henry

12pm tan 5pm

Gall ymwelwyr ddisgwyl llawer o weithgareddau, gan gynnwys:

Llawr sglefrio synthetig - bydd esgidiau sglefrio a fframiau sglefrio'n cael eu darparu - 1 tocyn ar gyfer pob plentyn.

Glôb eira enfawr - camwch i mewn i'n glôb eira enfawr er mwyn tynnu hunlun Nadoligaidd - 1 tocyn ar gyfer pob plentyn.  

Hwyl yr ŵyl – mwynhewch ein reidiau i blant (bydd cyfyngiadau o ran oedran / taldra) 1 tocyn ar gyfer pob plentyn.

Paentio wynebau – eisiau edrych fel Elsa neu Olaf? Beth am y Grinch? 1 tocyn ar gyfer pob plentyn.

Ogof Siôn Corn – does dim modd dod i achlysur y Nadolig heb ymweld â'r dyn ei hun, dewch i gwrdd â Siôn Corn yn ei ogof! Bydd pob plentyn yn derbyn anrheg sy'n addas ar gyfer eu hoedran. 2 docyn ar gyfer pob plentyn.

Stondinau crefftau - bydd gan rai trefi ffair crefftau’r Nadolig fach yn rhan o hwyl yr ŵyl – dyma gyfle perffaith i brynu anrhegion unigryw!

Bydd tocynnau'n costio £1 yr un a bydd modd eu prynu ym mhob achlysur.
Digwyddiadau i ddod

Submit An Event

Cysylltwch â ni

Carfan Achlysuron Rhondda Cynon Taf

Ebost: achlysuron@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 424123

Join us on Facebook
Join us on Twitter