Skip to main content

Gwasanaeth a Gorymdaith Sul y Cofio Pontypridd

 
 
Lleoliad
Ynysangharad War Memorial Park
Date(s)
Dydd Sul 12 Tachwedd 2023
Cyswllt
events@rctcbc.gov.uk
Disgrifiad
Remembrance Parade Body

Dyma wahoddiad i bawb o bob cwr o Rondda Cynon Taf ddod at ei gilydd yng Ngwasanaeth a Gorymdaith Sul y Cofio Pontypridd, i dalu teyrnged i'r rheiny a wnaeth yr aberth eithaf dros eu gwlad. 

Bydd yr achlysur, sy'n cael ei gynnal mewn partneriaeth â Chyngor Tref Pontypridd, yn cael ei gynnal ddydd Sul 12 Tachwedd, 10:35am ym Mharc Coffa Ynysangharad. Bydd gorymdaith trwy'r parc fydd yn cynnwys pobl o bob oed yn cynrychioli sefydliadau cymunedol a milwrol amrywiol. 

Bydd ysgolion, grwpiau Brownis a Sgowtiaid, Cadetiaid, cynrychiolwyr y Lleng Brydeinig Frenhinol a Chyngor Rhondda Cynon Taf yn ymuno â chyn-filwyr ac aelodau presennol cymuned y Lluoedd Arfog yn yr orymdaith. 

Bydd gwasanaeth yn cael ei gynnal wrth y gofeb ryfel hefyd. Dyma gyfle i bawb weddïo ac ymuno â dwy funud o dawelwch i fyfyrio a chofio’r rheiny a roddodd eu bywydau i wasanaethu dros eu gwlad. 

Mae hefyd yn gyfle i'r Cyngor a'i gymunedau ailddatgan eu cefnogaeth i aelodau  Cymuned y Lluoedd Arfog ddoe a heddiw. 

Mae Gwasanaethau ac Achlysuron coffa yn cael eu cynnal ledled Rhondda Cynon Taf. Mae'r rhain yn cael eu trefnu gan gynghorau tref a grwpiau lleol. Mae gwybodaeth am y rhain yn eich ardal leol.