Skip to main content

Cyngor RhCT a'i Bartneriaid Ffair Swyddi

 
 
Lleoliad
CF37 4TH, Llys Cadwyn, Pontypridd Library
Date(s)
Dydd Mercher 27 Medi 2023
Cyswllt
EETT@rctcbc.gov.uk
Disgrifiad
JOBS-Fair - Bilingual -2023

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnal ei Ffair Swyddi hynod lwyddiannus y mis yma.

Bydd amrywiaeth enfawr o ddarpar gyflogwyr wrth law i gwrdd â chi. Gall y rhai sy'n chwilio am gyflogaeth neu sydd am symud ymlaen yn eu gyrfa neu wella'u haddysg ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ystod yr achlysur.

Bydd yr achlysur yn cael ei gynnal yn adeilad Llys Cadwyn ym Mhontypridd ddydd Mercher, 27 Medi 2023. Bydd ar agor o 10:00am tan 2:00pm i aelodau'r cyhoedd. Yn ogystal â hynny, bydd awr dawel o 1:00pm ar gyfer unigolion sydd ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig neu anableddau eraill.

Bydd yr achlysur yn cynnwys ystod eang o gyflogwyr, sydd i gyd yn ceisio hyrwyddo a rhannu eu gyrfaoedd a'u cyfleoedd hyfforddi.

Bydd yr achlysur hefyd yn cynnwys gweithdai ar wneud cais am swydd, ac argymhellion defnyddiol o ran mynychu cyfweliadau.

Mae'r arddangoswyr canlynol wedi cadarnhau eu presenoldeb:

Apollo Teaching

Arc Rail

Arch Services

Aspire

Y Fyddin Wrth Gefn

Balfour Beatty

Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg

Care Cymru

GE

Meithrinfa Little Inspirations

Menter Iaith

Prichards

Pobl Group

Gofal Cymdeithasol i Oedolion RhCT

Carfan Gofal i Blant RhCT

Cyngor Rhondda Cynon Taf

Y Llynges Frenhinol

Y Gwarchodlu Cymreig

RTS Tree Specialist

Rubicon

Heavenly Brows

Teacher Active

Trafnidiaeth Cymru

Trivallis

TT Electronics

Llywodraeth Cymru

Thrive Group Wales

Itec Skills and Employability

First Source

Yr Urdd

Screen Alliance Wales