Skip to main content

Awgrymiadau Defnyddio

Rheoli Gwastraff

 

  • Gwnewch nodiadau yn eich calendr. Mae gan wahanol ardaloedd ddiwrnodau casglu gwahanol. Er mwyn osgoi colli eich casgliadau gwastraff ailgylchu, cliciwch yma i ddod o hyd i’ch diwrnod casglu.
  • Dilynwch y pedwar 'A' i leihau faint o ddeunyddiau y mae angen eu hailgylchu. Os oes modd, dylech chi Arbed, Ailddefnyddio, Anfon yn ôl neu Ailgylchu.
  • Osgowch yr angen i wastraffu unrhyw beth trwy ailddefnyddio cynwysyddion, poteli a bocsys trwy siopa yn eich siop ail-lenwi leol.
  • Mae rhoi eitemau nad oes modd eu hailgylchu yn eich bin ailgylchu yn gallu halogi'r eitemau ailgylchadwy sydd yno. Mae modd i hyn olygu nad oes modd eu hailgylchu nhw rhagor. Os ydych chi'n ansicr am eitem, peidiwch â'i rhoi i mewn. Gwiriwch yr eitemau y mae modd eu hailgylchu a’r hyn nad oes modd ei ailgylchu yma.

Lleihau Defnydd

  • Meddyliwch cyn i chi ei brynu. Cyn prynu rhywbeth, ystyriwch a oes angen yr eitem neu'r gwasanaeth. Mae gwastraffu eitemau rydych chi'n eu prynu yn wastraff ar yr ynni, yr amser a'r adnoddau a gafodd eu defnyddio i'w cynhyrchu. Gwnewch restr cyn siopa i sicrhau eich bod chi'n prynu dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch chi.
  • Dewch o hyd i gynnyrch lleol. Yn hytrach na defnyddio archfarchnadoedd wrth siopa am fwyd, prynwch gynnyrch ffres o siopau annibynnol lleol a marchnadoedd ffermwyr. Mae prynu cynnyrch o ffynonellau lleol yn lleihau'r cyfraniad at filltiroedd carbon o ran mewnforio bwyd ac yn helpu i gefnogi busnesau llai.
  • Osgowch gynhyrchion untro. Rhowch y gorau i eitemau untro diangen, megis cynnyrch bwyd wedi'i lapio mewn pecynnau plastig. Yn lle hynny, dewiswch gynhyrchion eraill y mae modd eu hailddefnyddio, megis cwpanau coffi neu fagiau y mae modd eu defnyddio a'u golchi dro ar ôl tro ar gyfer ffrwythau a llysiau rhydd.
  • Dewiswch brynu'n ail law neu fenthyg eitemau lle mae modd i chi wneud hynny. Yn hytrach na chynhyrchu mwy o wastraff trwy gael gwared ar eitemau diangen, rhowch nhw i bobl eraill. Fel dewis arall, mae gweddnewid a chrefftau'r cartref yn ffyrdd gwych o ailwampio ac ailddefnyddio eich hen bethau.

Trafnidiaeth

  • Pan fo modd, cerddwch neu feicio er mwyn osgoi allyriadau carbon yn gyfan gwbl.
  • Bwriwch olwg ar y llwybrau beicio sydd gyda ni yn RhCT drwy'r ddolen yma. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n beicio'n ddiogel, drwy wisgo helmed bob amser a defnyddio goleuadau ar ôl iddi dywyllu neu mewn tywydd gwael, er enghraifft. Am ragor o awgrymiadau diogelwch beicio, cliciwch yma.
  • Beth am ystyried newid i gerbyd trydan neu hybrid os ydych chi'n newid eich car i leihau eich ôl troed carbon? Os dyw hynny ddim yn fforddiadwy, dewiswch gerbyd diesel neu betrol mwy effeithlon.
  • Defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd pen eich taith yn lle'r car. Mae modd i chi ddod o hyd i wybodaeth a chyngor yn ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus ar wefan RhCT.
  • Os dydy teithio llesol na thrafnidiaeth gyhoeddus ddim yn opsiynau ymarferol, yna beth am ystyried dewis rhannu car wrth deithio gyda ffrindiau neu gydweithwyr? Drwy rannu ceir mae modd arbed arian, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd aer.

Arbed Ynni

  • Cofiwch ei ddiffodd. Diffoddwch y goleuadau pan nad oes eu hangen nhw a diffodd dyfeisiau wrth y switsh ar ôl eu defnyddio nhw.
  • Gwnewch gais am 'fesurydd clyfar' i'ch helpu chi i ddeall a rheoli eich defnydd o ynni a'ch costau.
  • Coginiwch yn gall, cymaint â phosibl. Y ffordd fwyaf cynaliadwy yw coginio gan ddefnyddio’r hob neu mewn micro-don.
  • Wrth sychu dillad, os yw'r tywydd yn ddigon da, defnyddiwch lein ddillad neu offer sychu yn lle’r peiriant sychu dillad.
  • Peidiwch â rhoi eitemau poeth yn yr oergell a glanhewch eich oergell chi'n amlach. Pan fo rhagor o eitemau yn yr oergell a'u bod nhw'n gynnes, bydd eich oergell yn defnyddio rhagor o ynni i gadw'r eitemau hynny'n oer. Mae eich oergell yn un o'r eitemau sy'n defnyddio'r mwyaf o ynni yn eich cartref.

Peidio â thaflu sbwriel

 

  • Peidiwch â thaflu eich sbwriel ar y llawr. Rhowch eich sbwriel mewn bin sbwriel cyfagos bob tro. Os fyddwch chi ddim yn gallu dod o hyd i fin sbwriel, ewch â'r sbwriel adref gyda chi a chael gwared arno yn y ffordd gywir.
  • Helpwch i leihau sbwriel drwy ymuno â'ch grŵp codi sbwriel gwirfoddol lleol. Mae rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi gymryd rhan yma.
  • Peidiwch â gadael sbwriel wrth ochr bin sbwriel sy'n orlawn. Gall y sbwriel yma fod yn niweidiol i fywyd gwyllt ac mae'n bosibl y bydd y gwynt yn codi sbwriel sydd heb gael ei roi'n ddiogel mewn bin, ac yn ei wasgaru i rannau eraill o'r ardal.

Bwyd a dŵr:

  • Ceisiwch fwyta bwyd feganaidd neu lysieuol un diwrnod yr wythnos, neu leihau faint o gig a llaeth rydych chi'n eu bwyta/yfed, gan mai dyma'r grwpiau bwyd sy'n cynhyrchu'r mwyaf o allyriadau carbon.
  • Defnyddiwch botel ddŵr y mae modd ei hailddefnyddio. Mae cynhyrchu plastig yn arwain at lawer o allyriadau carbon, felly byddwch chi'n lleihau eich ôl troed dŵr a charbon.
  • Os oes gyda chi le yn eich gardd chi, tyfwch eich ffrwythau, llysiau a pherlysiau eich hun.