Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd un o'r Cynghorau cyntaf yn Y Deyrnas Unedig i gyflwyno'r gwasanaeth ailgylchu cewynnau a gwastraff anymataliaeth (Casgliadau bagiau porffor) yn 2013. Ers hynny mae'r gwasanaeth wedi bod yn boblogaidd iawn gyda phreswylwyr, gyda dros 10,000 o gartrefi eco-gyfeillgar wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth.
- Caiff cwsmeriaid y gwasanaeth ailgylchu cewynnau a gwastraff anymataliaeth fanteisio ar wasanaeth mwy effeithlon bellach sydd wedi'i awtomeiddio'n llwyr ar ôl i'r Cyngor adolygu'i gynllun.
- Dylai POB cwsmer presennol wedi derbyn llythyr a dylai wedi ailgofrestru ar gyfer y gwasanaeth erbyn hyn. Os nad ydych chi wedi ailgofrestru, mae'n debygol bod eich casgliadau wedi dod i ben dros dro o'r 4 Tachwedd.
Cewch chi ailgofrestru o hyd neu gofrestru ar gyfer y cynllun am y tro cyntaf trwy ddefnyddio'r opsiynau isod:
Pam rydyn ni'n gwella ac yn adolygu casgliadau'r gwasanaeth ailgylchu cewynnau/gwastraff anymataliaeth (bagiau porffor)?
Mae'r Cyngor wedi adolygu'r gwasanaeth er mwyn gwella'r cynllun ymhellach a sicrhau bod yr holl ddefnyddwyr cofrestredig dal angen manteisio ar y cynllun ailgylchu ochr y ffordd wythnosol.
Nod yr adolygiad oedd gwella effeithiolrwydd y gwasanaeth rydyn ni'n ei gynnig i'n cwsmeriaid a'i wneud yn awtomataidd. Bydd yr adolygiad hefyd yn caniatáu i ni gynllunio ein llwybrau yn fwy effeithlon (nawr ac yn y dyfodol), sicrhau nad yw casgliadau’n cael eu colli (lle bo modd), a gwella'n trefnau cyfathrebu â phreswylwyr.
Pam mae angen i fi ailgofrestru?
Er mwyn cwblhau'r adolygiad o'r gwasanaeth, gofynnodd y Cyngor i HOLL ddefnyddwyr y gwasanaeth ailgylchu cewynnau a gwastraff anymataliaeth ailgofrestru ar gyfer y cynllun CYN 4 Tachwedd. Roedd hyn wedi sicrhau bod yr holl ddata sydd gan y Cyngor yn gywir a bod y trefniadau casglu mor effeithiol ag sy'n bosibl.
Os ydych chi'n gwsmer presennol sydd heb ailgofrestru CYN 4 Tachwedd – mae'n debygol y bydd eich casgliadau yn dod i ben dros dro – ailgofrestrwch nawr a bydd y casgliadau yn ailddechrau cyn gynted ag sy'n bosibl.
Sut mae'r gwasanaeth wedi'i wella?
O ganlyniad i'r gwasanaeth cwbl awtomataidd newydd, rydyn ni'n rhagweld y bydd llai o gasgliadau yn cael eu colli, a bydd llwybr casglu mwy effeithlon a threfnau cyfathrebu gwell â phreswylwyr. Yn ogystal â hyn, bydd modd i breswylwyr sydd wedi ailgofrestru/sydd newydd gofrestru wneud y canlynol cyn bo hir:
Nawr eich bod chi wedi ailgofrestru, byddwch chi wedi cael cadarnhad o'ch dyddiad/diwrnod casglu newydd gan ei bod hi'n bosibl bod hyn wedi newid o ganlyniad i'r newidiadau i'r gwasanaeth a'r casgliadau.
Beth sy'n digwydd i fy nghewynnau/cynnyrch ar ôl iddyn nhw gael eu casglu?
Rydyn ni'n amcangyfrif ein bod ni'n defnyddio ac yn ailgylchu dros filiwn o gewynnau yn RhCT a dros 20 miliwn ar draws Cymru. Mae'r cynllun arloesol yn gweld y cynnyrch gwastraff yn cael ei gasglu a'i ail-gynhyrchu yng Nghymru i greu byrddau panel ar gyfer adeiladu.
Dysgwch ragor am yr holl wasanaethau ailgylchu eraill sydd ar gael yn RhCT.