Skip to main content

Sut i ailgylchu cewynnau

Sut i ailgylchu cewynnau

Rhowch y cewynnau sydd wedi’u ddefnyddio yn y bag porffor. Ar eich diwrnod casglu, clymwch y bag a’i roi yn yr un lle â mae’ch sbwriel / deunydd i’w ailgylchu yn cael eu casglu fel arfer.

Cofiwch:

  • Chewch chi ddim rhoi cewynnau yn y bagiau ailgylchu clir a rhaid i chi gofrestru ar gyfer y cynllun cyn y bydd unrhyw gasgliadau yn cael eu gwneud.
  • Os nad yw’ch bag/bagiau wedi cael ei gasglu / eu casglu, mae’n debygol nad ydych chi wedi cofrestru ar gyfer y cynllun a bydd angen i chi ymuno (mae’r ddolen gyswllt uchod).
  • Wrth i ragor o bobl gofrestru, gall y diwrnodau casglu newid ond byddwn ni’n rhoi gwybod i chi os digwydd hyn.
  • Peidiwch â gorlenwi’ch bagiau porffor. Cewch chi ddefnyddio dau fag os yw’r llall yn llawn.
  • Clymwch y bag ar y diwrnod casglu.
  • Dim ond cewynnau a chlytiau papur gwlyb a ddylai gael eu rhoi yn y bagiau porffor - os oes unrhyw wastraff arall ynddyn nhw, fyddan nhw ddim yn cael eu casglu.
  • Os yw cyfnod o dros 4 wythnos yn mynd heibio a dydych chi ddim wedi rhoi unrhyw fagiau porffor yn y man casglu, byddwn ni’n tybio nad ydych chi angen y gwasanaeth mwyach. 
  • Os ydych chi’n symud tŷ, ewch â’ch bagiau porffor gyda chi a rhoi gwybod i ni beth yw’ch CYFEIRIAD NEWYDD.
  • Peidiwch â defnyddio bagiau mae’ch cymdogion neu ffrindiau wedi’u rhoi i chi achos fydd y rhain ddim yn cael eu casglu. Byddwn ni dim ond yn casglu o’r teuluoedd sydd wedi cofrestru.
  • Dylech chi roi’ch bagiau yn y man casglu erbyn 7am ar y diwrnod casglu.       
  • Ar ôl 3 blynedd, byddwn ni’n dileu’ch cyfeiriad oddi ar ein rhestr ni, a bydd rhaid i chi ailgofrestru i barhau i fod yn rhan o’r cynllun.