Mae'r Cyngor wedi ail-lanso ymgyrch Cofiwch eich Cymdogion eto er mwyn cynnig cyngor ac anogaeth fydd yn helpu preswylwyr i edrych ar ôl ei gilydd yn ystod argyfwng iechyd y Coronafirws.
Mae ein neges trwy'r ymgyrch yma'n glir - 'gadewch i ni helpu ein gilydd yn ystod yr argyfwng iechyd yma'. Dyma ychydig o wybodaeth a chyngor allweddol:
Yr henoed a phobl sy'n agored i niwed
Dyma ychydig o gyngor i bobl oedrannus a bregus:

- Cadwch mewn cysylltiad - mae'n bwysig galw'ch teulu a'ch ffrindiau yn rheolaidd, a gofyn iddyn nhw wneud ffafr ar eich rhan chi os does dim modd i chi adael eich cartref. Cofiwch, os ydych chi'n hunan-ynysu does dim modd dod i gysylltiad wyneb yn wyneb â neb - mae'n bosibl iddyn nhw adael eitemau, fel bwyd, ar garreg eich drws. Gwiriwch bod gyda chi rhifau ffôn cyfredol ar gyfer y bobl y byddwch chi'n dibynnu arnyn nhw yn ystod eich cyfnod o hunan-ynysu.
- Byddwch yn ddiogel - efallai y bydd dieithriaid yn gwirfoddoli i fynd i'r siop ar eich rhan chi. Mae hynny'n iawn, ond meddyliwch am eich diogelwch. Dylech chi ond rhoi arian i rywun AR ÔL iddo ddychwelyd â'ch eitemau o'r siop. Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi gwybodaeth am sgamiau y mae'n effro iddyn nhw.
- Cadwch yn heini - mae bod ar eich traed a chadw'n heini'n gorfforol ac yn feddyliol yn bwysig, hyd yn oed yn eich cartref, os ydych chi'n hunan-ynysu.
Cofiwch, bydd cyngor pwysig yn cael ei gyhoeddi gan Age Cymru. Mae modd gweld yr wybodaeth yma ar nifer o lwyfannau gwahanol gan gynnwys Twitter (@AgeCymru), ar y wefan (www.agecymru.org.uk) neu dros y ffôn (08000 222344). Cofiwch fod modd i unrhyw un ofyn am gymorth gan y Cyngor os ydyn nhw'n hunan-ynysu. Manylion yma.
Helpu'r rheini sy'n hunan-ynysu
Efallai y bydd angen i'ch cymydog, p'un a yw'n oedrannus / agored i niwed ai peidio, hunan-ynysu.
Y cyngor i unigolion yw ceisio cymorth gan ffrindiau, teulu neu gymdogion yn gyntaf. Rydyn ni'n cynghori preswylwyr sydd ddim ag unrhyw gymorth gan bobl eraill ffonio'r Cyngor ar 01443 425003 neu drwy'r e-ffurflen yma.
Dyma ychydig o gyngor ar y modd i gefnogi ffrind, aelod o'r teulu neu gymydog:

- Cadw mewn cysylltiad - ffoniwch y rhai sy'n hunan-ynysu i sicrhau eu bod nhw'n iach, yn ymdopi, ac er mwyn cynnig ychydig o gwmni iddyn nhw.
- 'Mynd ar neges' ar eu rhan - efallai y bydd angen help ar y rhai sy'n hunan-ynysu gyda siopa neu nôl eu presgripsiwn.
- Peidio â chael cyswllt wyneb wrth wyneb - mae modd i bobl sy'n helpu unigolyn gael sgwrsgydag e dros y ffôn neu roi nodyn trwy'r drws - bydd hyn yn osgoi unrhyw gyswllt agos ac yn lleihau'r risg o ledaenu'r firws. Gwiriwch fod gyda chi rifau ffôn y bobl rydych chi'n credu y mae modd i chi eu helpu. Dyma ychydig o gyngor ymarferol da ynglŷn â hunan-ynysu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cofiwch fod modd i chi adael eitemau fel bwydydd ar eu stepen drws, a gwirio o bell fod eich cymydog wedi'u derbyn. Cofiwch am arferion da fel golchi'ch dwylo cyn cyffwrdd ag eitemau.Mae modd i unrhyw un ofyn am gymorth gan y Cyngor os ydyn nhw'n hunan-ynysu yma.
Mynnu'r wybodaeth ddiweddaraf
Efallai y bydd newyddion a chyngor pwysig am y Coronafirws yn newid yn gyflym. Dyma rai o'r ffyrdd mae modd i chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf:

- Y Cyngor - mae ein tudalennau gwe pwrpasol yn darparu gwybodaeth a chyngor cyfoes am eich ardal leol ynglŷn a'r Cornoafirws, o'r cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf i newidiadau i wasanaethau. Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd - @CyngorRhCT ar Twitter a ' Rhondda Cynon Taf Council' ar Facebook.
- Sefydliadau Newyddion - edrychwch ar yr wybodaeth ddiweddaraf gan sefydliadau newyddion lleol a chenedlaethol er mwyn mynnu newyddion dibynadwy cyfoes. Yn ystod y cyfnod yma, mae llawer o gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â'r Coronafirws - byddwch yn effro i'r ffaith fod rhywfaint o'r wybodaeth yma ddim yn wir, felly mae rhaid dilyn y ffeithiau sy'n cael ei rhoi gan sefydliadau newyddion dibynadwy.
- Iechyd Cyhoeddus Cymru - bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd swyddogol Cymru, yn cyhoeddi cyngor, arweiniad a datganiadau cyfredol. Dilynwch nhw ar Twitter @PublicHealthW neu ar-lein yn https://icc.gig.cymru.
Gall dilyn y newyddion yn rheolaidd mewn cyfnodau ansicr fel hyn fod yn brofiad didrugaredd. Mae'n bwysig gofalu am eich iechyd meddwl. Efallai ei bod yn syniad i chi geisio diweddariadau ar amseroedd penodol bob dydd. Mae elusen 'Mind' (Twitter: @MindCharity) wedi cyhoeddi cyngor 'Coronafirws a'ch lles' ar ei gwefan.
Golchi'ch dwylo
Mae hyn, ynghyd â materion hylendid sylfaenol eraill, yn ffyrdd syml iawn o amddiffyn eich hun ac eraill trwy leihau lledaeniad y Coronafirws:

- Gwneud hyn yn rheolaidd - dylech chi olchi'ch dwylo'n amlach na'r arfer, yn enwedig os ydych chi'n mynd i ardaloedd cymunedol cyn bwyta neu baratoi bwyd.
- Gwneud hyn yn drylwyr - defnyddiwch sebon a dŵr cynnes a golchwch eich dwylo am o leiaf 20 eiliad, neu am yr un amser mae'n ei gymryd i ganu 'Pen-blwydd Hapus' ddwywaith. Mae hefyd yn bwysig sicrhau bod eich dwylo A'CH garddyrnau wedi'u golchi hefyd (gweler y cyngor isod).
- Peidiwch â chyffwrdd eich wyneb - dyma fodd hawdd arall i chi osgoi lledaenu'r firws o'ch dwylo chi i weddill y corff.
Cofiwch! Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyngor ynglŷn â sut i olchi'ch dwylo, er mwyn sicrhau bod cefn eich bysedd, cledrau'ch dwylo, eich garddyrnau a rhwng eich bysedd i gyd yn lân bob tro rydych chi'n eu golchi.
Ein hapêl atoch chi
Mae'r Cyngor wedi apelio at gyn weithwyr gofal, ac am wirfoddolwyr newydd, i'w helpu yn ystod yr argyfwng yma:

- Mae Arweinydd y Cyngor yn galw ar gyn weithwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol ddychwelyd i'r gwaith gan y byddai hyn help ac yn hwb amhrisiadwy i'n hadnoddau, wrth i ni gynnig cymorth gofal cymdeithasol i'r GIG. Dyma sefyllfa ddigynsail sy'n debygol o roi pwysau enbyd ar wasanaethau gofal. Dylai'r rhai sydd â diddordeb yn dychwelyd i'r gwaith ffonio 01443 444559 neu e-bostio CofrestruGofalCymdeithasol@rctcbc.gov.uk.

- Gwirfoddoli gyda'r Garfan Cydnerthedd Cymunedol - mae'r Cyngor yn datblygu rhwydwaith o gefnogaeth wirfoddol i bobl sy'n agored i niwed yn ein cymunedau. Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru, ffoniwch 01443 425003 neu ewch i'n tudalen we bwrpasol www.rctcbc.gov.uk/gwirfoddoli
Os ydych chi'n rhan o Grŵp Cymunedol sydd eisiau cynnig cefnogaeth wrth ymateb i'r Coronafirws, hoffai Interlink a'r Cyngor glywed gennych chi - cysylltwch â ni! Rhif Ffôn: 01443 846200.
Cyngor i bobl sy’n siopa
Mae gadael eich tŷ er mwyn siopa am fwyd yn cyfrif fel un o’r rhesymau sy’n cael ei ganiatáu yn unol â chanllawiau cadw pellter cymdeithasol.
cyhoeddodd Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd y canllawiau diweddaraf er mwyn lleihau’r risg i unigolion sy’n siopa - ‘A Quick Guide to Shopping During the Coronavirus pandemic’
- Cyn mynd i siopa – Os ydych chi ymhlith y rheiny ohonon ni sy’n cael eu gwarchod ar hyn o bryd neu os ydych chi’n teimlo’n dost, peidiwch â mynd i’r siop. Gofynnwch i rywun arall fynd i siopa ar eich rhan chi, neu siopwch ar-lein. Gofynnwch i’ch siop leol a oes cyfnodau siopa arbennig ar gyfer yr henoed neu weithwyr gofal iechyd.
- Yn y siop – Sicrhewch fod dau fetr rhyngoch chi a phobl eraill a dilyn y trefniadau cadw pellter cymdeithasol, er enghraifft, y parthau siopa a’r marciau ar y llawr ar gyfer ciwio. Gofynnwch a yw’ch troli/basged wedi cael ei ddiheintio/diheintio ac os oes modd, peidiwch â chyffwrdd ag arwynebau. Defnyddiwch y llaw dydych chi ddim yn ei defnyddio fel arfer i godi eitemau.
- Ar ôl siopa – Golchwch eich dwylo ar ôl i chi gyrraedd adref. Diheintiwch arwynebau’r cypyrddau a’r oergell/rhewgell, ynghyd â thuniau a phecynnau caled. Ar ôl rhoi’ch bwyd i gadw, diheintiwch handlenni’r oergell/rhewgell/cypyrddau a golchi’ch dwylo eto.
Cofiwch: Peidiwch â mynd i’r siop yn aml a pheidiwch â phrynu sawl un o’r un eitem drwy banig. Bydd digon i bawb os ydyn ni’n prynu’r hyn sydd ei angen arnon ni’n unig. Darllenwch yma