Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn cynnig cefnogaeth i bawb yn Rhondda Cynon Taf sy'n chwilio am waith, hyfforddiant neu gyfle i wirfoddoli.

Hefyd mae modd i ni gynnig cymorth yn y gwaith i'r rhai sydd ar incwm isel sydd eisiau ail-hyfforddi neu ddatblygu sgiliau uwch.
Mae CaW+ ar gael ar draws RhCT ac mae'r rhaglen wedi'i rhannu yn 4 ardal
- Gogledd Cwm Rhondda (sef ardaloedd Cwm Rhondda Fawr a Chanolbarth Cwm Rhondda, gan gynnwys Trealaw)
- De Cwm Rhondda (sef ardaloedd Cwm Rhondda Fach, y Porth, Tonyrefail a'r Gilfach-goch)
- Cwm Cynon (sef ardaloedd Cwm Cynon, Glyn-coch ac Ynys-y-bŵl)
- Taf-elái (sef ardaloedd Rhydfelen a'r Ddraenen Wen, Pontypridd, Pentre'r Eglwys a Llantrisant)
Mae gan bob ardal ei swyddfa gymunedol a'i charfan ei hun sy'n cyflwyno'r rhaglen.
Mae 3 prif agwedd ar ein gwaith:
Mae gyda ni staff medrus sy'n gallu rhoi cymorth fesul un i unigolion
Mae modd i gyfranogwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a gaiff eu cynnal yn rheolaidd. Mae'r rhain yn cynnwys Clybiau Gwaith a chyrsiau dysgu i Oedolion yn y gymuned.
Cysylltwch â ni;
Am ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â:
Carfan Cefnogi Ganolog - Tŷ Elái, Trewiliam, RhCT, CF40 1NY
Ffôn: 01443 425761
E-bost: caw@rctcbc.gov.uk
Carfan Gogledd Cwm Rhondda
Canolfan Gymunedol Cwm Clydach, Cwm Clydach, RhCT,
CF40 2BD
Ffôn: 01443 281486
E-bost: cfwrhnorth@rctcbc.gov.uk
Canolfan Hyfforddi Perthcelyn, Perthcelyn, Aberpennar, RhCT,
CF45 3RJ
Ffôn: 01443 420962
E-bost: cfwcynon@rctcbc.gov.uk
Canolfan Gymunedol Ilan, Poets Close, Rhydfelen, RhCT,
CF37 5HL
Ffôn: 01443 562204
E-bost: cfwtaf@rctcbc.gov.uk
Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gadw'ch gwybodaeth bersonol yn ddiogel, yn ogystal â rhoi gwybod i chi ynghylch sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni'n diogelu'ch preifatrwydd, a sut a pham rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i ddarparu gwasanaethau ar eich cyfer chi, darllenwch ein hysbysiadau preifatrwydd a thudalennau diogelu data'r Cyngor.