Skip to main content

Strategaeth Dwristiaeth Ddrafft ar gyfer Rhondda Cynon Taf

Mae gan Rondda Cynon Taf arlwy twristiaeth unigryw gydag atyniadau twristaidd adnabyddus fel Lido Cenedlaethol Cymru - Lido Ponty, Y Bathdy Brenhinol, Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, yn ogystal ag atyniadau antur newydd fel Zip World Tower a'r Parc Beiciau Disgyrchiant i Deuluoedd sydd ar y gweill ym Mharc Gwledig Cwm Dâr.
Darllenwch Strategaeth Dwristiaeth ddrafft Rhondda Cynon Taf

Yn ogystal â hynny, mae ein tirwedd hyfryd a'n llwybrau mynyddig, ein parciau gwledig a'n llwybrau hygyrch i gyd yn parhau i fod yn boblogaidd ac yn parhau i ddenu nifer cynyddol o ymwelwyr i ardal Rhondda Cynon Taf.

Mae cyfyngiadau COVID-19 Llywodraeth Cymru yn cael eu llacio a'r sector twristiaeth a lletygarwch yn dechrau ailagor, ac mae pobl yn fwyfwy tebygol o ystyried gwyliau lleol yn y DU yn hytrach na theithio tramor. Mae hyn yn gosod Rhondda Cynon Taf yn y safle gorau i ddod yn gyrchfan wyliau y mae galw mawr amdani.

Mae twristiaeth yn hybu twf economaidd yn Rhondda Cynon Taf, ac yn ogystal yn darparu cyfleoedd i'r gweithlu lleol ddatblygu sgiliau a diogelu cyflogaeth.

Gan ystyried hyn, cafodd Strategaeth Dwristiaeth Rhondda Cynon Taf ei llunio ac rydyn ni'n gwahodd trigolion lleol, y rhai sy'n gweithio yn Rhondda Cynon Taf, perchnogion busnes ac ymwelwyr i ddweud eu dweud am y Strategaeth ddrafft a helpu i'w llywio ymhellach.

Sut i gymryd rhan:

Cymryd rhan ar-lein

Dyddiad cau: 14 Mahefin 2021

Trwy lythyr:

Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS, Carfan Materion Ymchwil ac Ymgynghori,

Adran Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth,
Y Pafiliynau,
Parc Hen Lofa’r Cambrian,
Cwm Clydach, Tonypandy,
CF40 2XX.

Rhif ffôn: 01443 425014