Skip to main content

Prosiectau Buddsoddi mewn Ysgolion – Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu

 
Nod Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (yr enw newydd ar Raglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif ers 24 Ionawr, 2022) yw trawsnewid profiad dysgu disgyblion, gan sicrhau eu bod yn cael eu haddysgu mewn ystafelloedd dosbarth gyda’r technolegau a’r cyfleusterau sydd eu hangen i helpu i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Mae'r prosiectau isod yn cael eu hariannu ar y cyd â ffrydiau ariannu cyfalaf a refeniw (Model Buddsoddi Cydfuddiannol) y Rhaglen.
School-Investment-Completed-Projects-2022

Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn

Bydd yr ysgol newydd yng Nglynrhedynog yn elwa o adeilad ysgol newydd sbon ar safle newydd gan olygu bydd mwy o ddarpariaeth addysg gynradd cyfrwng Cymraeg ar gael yn lleol. Bydd yr ysgol newydd yn cynnwys cyfleusterau modern, hyblyg a hygyrch, a bydd modd i'r gymuned ddefnyddio cyfleusterau'r ysgol hefyd. Bydd yr ysgol yn disodli'r hen adeiladau oes Fictoria sydd angen llawer o waith adnewyddu ac sy'n anodd eu hymestyn.

YGG Llyn y Forwyn artist impression

Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi

Mae adeilad deulawr newydd wedi cael ei adeiladu ar safle presennol yr ysgol i gymryd lle'r adeilad cyfredol a'r rhai dros dro, a oedd mewn cyflwr gwael. Cafodd yr adeilad newydd ei gwblhau ym mis Gorffennaf 2024, er mwyn cynnig amgylchedd dysgu bywiog sy’n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif i ddisgyblion ac i'r gymuned leol. Mae cam nesaf y gwaith yn cynnwys dymchwel yr hen adeiladau ac adeiladu cyfleusterau allanol.

Penygawsi-Primary-School-

Ysgol Gynradd Pont-y-clun

Mae adeilad ysgol deulawr newydd yn cael ei adeiladu ar safle'r ysgol bresennol i gymryd lle'r adeiladau niferus a'r rhai dros dro sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd. Mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau yma mewn cyflwr gwael. Mae disgwyl i'r adeilad newydd gael ei gyflawni yn ystod gwanwyn 2025, a bydd lle i 480 o ddisgyblion a lle i 60 o ddisgyblion yn y dosbarth meithrin.

Pontyclun-Primary-School

Ysgol Afon Wen

Ffrwyth llafur y prosiect yma yw bod yr ysgol ar gyfer plant 3–16 oed wedi ei hagor ym mis Medi 2024 ar safle Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen gynt. Yn sgil y datblygiad mae bloc addysgu ac ynddo 28 ystafell ddosbarth wedi'i greu ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2–4, ac mae gwaith ailwampio wedi digwydd i nifer o'r cyfleusterau. Bydd ail ran y gwaith, sef dymchwel hen floc yr ysgol uwchradd a chwblhau gwaith tirlunio sylweddol, yn dirwyn i ben yn 2025.

Hawthorn 3-16 School

 

Sustainable Communities for Learning