Skip to main content

Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref

 

Bydd y prosiect yn darparu adeilad ysgol newydd gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf i gymryd lle adeiladau presennol Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref. Bydd y cyfleusterau newydd wedi'u lleoli ar safle presennol yr ysgol.

Ym mis Rhagfyr 2022, fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei gyfraniad i'r prosiect yma, a gaiff ei ariannu drwy fuddsoddiad y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM). MIM yw ffrwd cyllid refeniw Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.

Llanilltud-Faerdref-Primary-School

Bydd y buddsoddiad yn darparu adeilad newydd unllawr, a fydd yn anelu at fod yn Garbon Sero-Net wrth gael ei weithredu. Bydd yn disodli'r adeilad presennol, gan gynnwys y dosbarthiadau dros dro, sydd mewn cyflwr gwael. Bydd lle i 240 o ddisgyblion a lle i 30 o ddisgyblion yn y feithrinfa yn yr adeilad newydd, sydd i'w gyflawni yng ngwanwyn 2024 gan Morgan Sindall Construction.

Bydd y datblygiad newydd yn darparu amgylchedd dysgu bywiog yr 21ain Ganrif ar gyfer staff a disgyblion, a bydd rhai cyfleusterau hefyd ar gael i'r gymuned ehangach eu defnyddio. Yn allanol, bydd y datblygiad yn cynnwys Ardal Gemau Aml-ddefnydd â dau gwrt, cae chwarae newydd a maes parcio.

Rhoddodd ymgynghoriad a gafodd ei gynnal rhwng mis Hydref a mis Tachwedd 2021 gyfle i drigolion ddysgu rhagor am y cynllun a chyfle iddyn nhw gael dweud eu dweud. 

Derbyniodd y cynllun ganiatâd cynllunio llawn oddi wrth Bwyllgor Cynllunio a Datblygu'r Cyngor ym mis Mawrth 2022.