Skip to main content

Ysgol Gynradd Penygawsi

 

Bydd y prosiect yn darparu adeilad ysgol newydd gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf i ddisodli adeiladau presennol Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi. Bydd y cyfleusterau newydd wedi'u lleoli ar safle presennol yr ysgol. 

Ym mis Rhagfyr 2022, fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei gyfraniad i'r prosiect yma, a gaiff ei ariannu drwy fuddsoddiad y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM). MIM yw ffrwd cyllid refeniw Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.

Penygawsi-Primary-School-

Bydd y buddsoddiad yn darparu adeilad newydd deulawr, a fydd yn anelu at fod yn Garbon Sero-Net wrth gael ei weithredu ar safle presennol yr ysgol. Mae disgwyl i'r datblygiad, sy'n cael ei gynnal gan Morgan Sindall Construction, ddisodli adeiladau presennol yr ysgol erbyn haf 2024. Yna, bydd lle i 310 o ddisgyblion a lle i 45 o ddisgyblion yn y feithrinfa.

Bydd y datblygiad ehangach yn darparu Ardal Gemau Aml-ddefnydd â dau gwrt, cae chwarae a maes parcio. Bydd yn darparu amgylchedd dysgu ysgogol gan gynnwys cyfleusterau mewnol ac allanol newydd sbon sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif – gyda rhywfaint o'r ddarpariaeth ar gael i'r gymuned ehangach ei defnyddio.

Rhoddodd ymgynghoriad a gafodd ei gynnal rhwng mis Hydref a mis Tachwedd 2021 gyfle i drigolion ddysgu rhagor am y cynllun a chyfle iddyn nhw gael dweud eu dweud. 

Derbyniodd y cynllun ganiatâd cynllunio llawn oddi wrth Bwyllgor Cynllunio a Datblygu'r Cyngor ym mis Mawrth 2022.