Skip to main content

Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn

 
Bydd yr Ysgol Gynradd Gymraeg yng Nglynrhedynog yn derbyn adeilad newydd sbon ar safle newydd, yn rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer yr ysgol a’r gymuned.

Adeilad Oes Fictoria sy'n gartref i'r ysgol ar hyn o bryd ac mae rhestr hirfaith o waith adnewyddu i wneud arno. Does dim llawer o gyfle i wella'r ddarpariaeth awyr agored yno chwaith oherwydd tirwedd y safle presennol.  Mae cyfleuster sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, gan gynnwys Cylch Meithrin, yn cael ei adeiladu ar hen safle Ffatri 'Chubb' ar Ystad Ddiwydiannol Maerdy. Bydd yn darparu cyfleusterau gwell i staff, disgyblion a'r gymuned.

Bydd y datblygiad yn ehangu’r ddarpariaeth addysg gynradd cyfrwng Cymraeg lleol ac yn cynnwys cyfleusterau modern, hyblyg a hygyrch y mae modd i'r gymuned eu defnyddio. Bydd y Cylch Meithrin newydd hefyd yn cynnig mwy o sesiynau cyn ysgol i blant 2-3 oed. Bydd mannau awyr agored gwell yn cefnogi'r gwaith o ran darparu holl weithgareddau’r cwricwlwm, tra bydd maes parcio staff a man gollwng a chasglu ar gyfer bysiau a rhieni hefyd yn cael eu darparu ar y safle. Bydd yr adeilad newydd hefyd yn gweithredu'n adeilad Carbon Sero Net.

Disgyblion ysgol Glynrhedynog yn cwrdd â'r garfan sy'n adeiladu eu hysgol newydd (Tachwedd 2023)

Mae contractwyr y Cyngor, Wynne Construction, yn gwneud cynnydd da gyda’r gwaith adeiladu – yn fewnol ac yn allanol, a rhagwelir y bydd yr ysgol yn barod i’w meddiannu yn nhymor yr hydref, 2024.

Mae'r lluniau o'r safle, a gafodd eu tynnu yn yr haf 2024, yn dangos cynnydd y datblygiad
Ysgol-Llyn-y-Forwyn-2
Ysgol-Llyn-y-Forwyn-3
Ysgol-Llyn-y-Forwyn-1