Skip to main content

Proses Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Beth yw Trosglwyddo Asedau Cymunedol?

Yn RhCT, mae'n cynnwys trosglwyddo rheolaeth adeiladau a/neu dir y Cyngor i sefydliad cymunedol “nid er elw personol”, menter gymdeithasol neu Gyngor Tref a Chymuned.  Efallai y bydd ystod o gytundebau ar gael (a bennir fesul achos) a allai gynnwys:

  • Cytundeb Rheoli
  • Tenantiaeth wrth Ewyllys
  • Trwydded
  • Prydles Tymor Byr
  • Prydles Tymor Hir (dewis diofyn Cyngor RhCT)

Ym mha ffordd mae modd i drosglwyddo asedau cymunedol fod yn fuddiol i gymunedau lleol?

Mae Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn golygu bod modd i'r gymuned fod yn berchen ar a / neu reoli cyfleusterau nad oes eu hangen ar y Cyngor neu y gellir eu cau neu eu gwaredu fel arall os nad oes modd i'r Awdurdod Lleol eu hariannu mwyach.

Mae modd i Drosglwyddo Asedau Cymunedol gefnogi arloesedd lleol, gweithredu yn y gymuned ac atebion dan arweiniad trigolion. Mae modd iddyn nhw hefyd alluogi grwpiau i gael gafael ar gyllid na fyddai modd i gyrff cyhoeddus ei gael o bosibl. Gall fod yn llwybr dilys i rymuso a galluogi cymunedau lleol i lunio eu cymdogaethau lleol gan ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau sy'n bwysig i bob cymuned.

Nodau Trosglwyddo Asedau Cymunedol o Gyngor Rhondda Cynon Taf yw:

  • Annog cymunedau a grwpiau lleol (rhai newydd neu rai sy'n bodoli eisoes) i ddod yn ddinasyddion grymus a gweithredol trwy ddarparu gwasanaethau a rheoli adeiladau lleol yn eu cymunedau.
  • Datblygu gallu'r gymuned a hyrwyddo trefnau rhannu'r adeiladau cymunedol rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chymunedol drwy ddefnyddio dull cyd-weithio.
  • Diogelu a gwarchod lleoedd, adeiladau a gwasanaethau lleol gwerthfawr at ddefnydd a budd cymunedol.
  • Gwneud y mwyaf o werth cymdeithasol, h.y. gwerth y pwysigrwydd y mae pobl yn ei roi ar y newidiadau cadarnhaol maen nhw'n eu profi yn eu bywydau.

Proses Trosglwyddo Asedau Cymunedol

CAT welsh

 

Os oes gyda chi syniad neu gynnig ar gyfer Adeilad y Cyngor, ebostiwch Carfan RhCT Gyda'n Gilydd RhCTGydanGilydd@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 425368 neu cwblhewch y Ffurflen “Datgan Diddordeb”

Trawsnewid Ein Hasedau Cymunedol

Mae enghreifftiau gyda ni yn RhCT lle mae grwpiau wedi trawsnewid ac adfywio hen adeiladau a mannau'r Cyngor ac wedi defnyddio'r asedau yma i ddarparu gwasanaethau sy'n cefnogi iechyd, lles, dysgu a ffyniant pobl.

Mae grwpiau wedi gweithio gyda chyllidwyr, carfanau’r sector cyhoeddus ac asiantaethau cymorth y sector gwirfoddol i sicrhau newid cadarnhaol.

Grŵp Pwll Gerddi Lee


Lee Gardens Pool Group 1


Lee Gardens Pool Group 2

Lee Gardens Pool Group 3


Amgueddfa Cwm Cynon 

Cynon Valley Museum 1
Cynon Valley Museum 2. jpg

 

Hwb Glynrhedynog

Ferndale Hub 1
Ferndale Hwb 2
Ferndale Hwb 3

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd asedau cymunedol ac mae ganddi ymrwymiad penodol “i weithio gyda chymunedau i helpu i gynnal adnoddau lleol sy’n dod â phobl at ei gilydd, gan gynnwys llyfrgelloedd, amgueddfeydd, mannau gwyrdd, canolfannau'r celfyddydau a chanolfannau hamdden, gan helpu