Oes gyda chi gynnig arloesol i ddefnyddio Tir y Cyngor i wella golwg eich cymuned leol neu ddarparu gwasanaethau neu gyfleoedd ymgysylltu a all gyfrannu at gefnogi blaenoriaethau Pobl, Lleoedd a Ffyniant? Cysylltwch â charfan RhCT Gyda'n Gilydd drwy ebostio
rhctgydangilydd@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 425368 i drafod eich cynnig.
Os oes gyda chi gynnig i ddefnyddio Tir y Cyngor i ddarparu gwasanaethau neu weithgareddau cymunedol, mae tri llwybr gyda ni i grwpiau fwrw ymlaen â thrafodaethau;
- Cynigion trosglwyddo tir cymunedol mawr e.e. efallai y bydd cynlluniau'n cynnwys datblygu adeiladau neu gyfleusterau cymunedol, neu'n cynnwys darn daearyddol mawr o dir. Mae hyn yn ddull dau gam sy'n cynnwys cyflwyno “Ffurflen Datgan Diddordeb” i ddechrau ac yna Cynllun Busnes sy'n cynnwys costau a thystiolaeth yn dangos bod eich cynnig yn diwallu anghenion y gymuned, ei fod yn hyfyw ac yn gynaliadwy. Llenwch y “Ffurflen Datgan Diddordeb” sydd ynghlwm i gofrestru unrhyw gynigion cychwynnol sydd gyda chi.
- Cynigion ar gyfer defnydd cymunedol / rheoli Tir Hamdden er budd y gymuned
Llenwch y ffurflen Cais i ddefnyddio Tir Hamdden at Ddefnydd Cymunedol sydd ynghlwm.
- Garddio Cymunedol ar raddfa Fach neu Brosiect Tyfu Bwyd- gallai'r rhain fod yn brosiectau cymunedol llai sy'n gyflymach i'w cychwyn gan fod llai o ofynion cyllido. Mae hyn yn gofyn am ffurflen gais symlach. Gweler manylion y broses isod
Os ydych chi am ddefnyddio tir y Cyngor yn benodol ar gyfer garddio cymunedol neu brosiectau dyfu bwyd, llenwch y ffurflen gais sydd ynghlwm a'i ebostio at garfan RhCT Gyda'n Gilydd: rhctgydangilydd@rctcbc.gov.uk. Gan fod staff yn gweithio gartref ar hyn o bryd, peidiwch â dychwelyd y ffurflen wedi'i llenwi i unrhyw un o Swyddfeydd y Cyngor.
Y broses:
- Unwaith i ni dderbyn y ffurflen, bydd gweithiwr achos o adran Eiddo'r Cyngor yn ei hadolygu gan roi sylw i amryw o faterion, er enghraifft: gweithredoedd eiddo'r Cyngor a sylwadau / cyngor gan adran y Cyngor.
- Bydd llythyr yn cael ei anfon atoch chi naill ai'n rhestru gofynion y Cyngor er mwyn i chi fwrw ymlaen gyda'ch defnydd o'r ardal, neu'n egluro nad oes modd i'r Cyngor fwrw ymlaen gyda'r cais yn yr achos yma.
- Os caiff defnydd y tir ei gynnig i chi, bydd y llythyr yn gofyn i chi gadarnhau eich bod chi'n awyddus i barhau ar y sail honno.
- Unwaith i ni dderbyn eich cadarnhad, bydd y Cyngor yn creu cytundeb ffurfiol i chi ei lofnodi a bydd modd i chi ddefnyddio'r ardal o'r amser hwnnw ymlaen.
- Ar y cam yma bydd ffi o £60 i dalu costau'r Cyngor
I wneud cais, llenwch y ffurflen Cais i ddefnyddio tir y Cyngor at ddibenion garddio yn unig
Gweld y cyfleoedd trosglwyddo tir cyfredol:
Os oes angen unrhyw wybodaeth neu gymorth bellach arnoch i'ch helpu â'ch cynnig, anfonwch e-bost at Garfan Datblygu'r Gymuned y Cyngor: RhCTGydanGilydd@rctcbc.gov.uk neu ffonio'r Swyddogion Datblygu ar gyfer yr ardal wedi'u nodi isod. Bydd modd iddyn nhw ddarparu cyngor, cymorth a'ch cyfeirio at asiantaethau cymorth priodol os oes angen.
Ardal
|
Swyddog Datblygu
|
Rhif Ffôn
|
Cwm Rhondda
|
Stephen Smith
|
07786 523656
|
Cwm Cynon
|
Alice Holloway
|
07385 370198
|
Taf-elái
|
Clair Ruddock
|
07786 523652
|
Ledled RhCT
|
Debra Hanney
|
07880 044520
|
Ased | Ffotograff o'r Adeilad a'r Cynlluniau Llawr
| Map o'r awyr
| Disgrifiad o'r Adeilad/Tenantiaeth Gyfredol | Dyddiad Agor | Dyddiad Cau |
Caeau Chwarae Rhondda Ganol
Heol Gelli, Tonypandy, RhCT, CF40 1DB
UPRN 90413
|
 |

|
|
Caeedig
|
|