
Nod Canolfan Pennar yw dwyn ynghyd ystod eang o wasanaethau, gwybodaeth a chymorth o dan un to yng nghanol ardal De Cynon.
Cyfleusterau
Caffi
|
Mae 'Little Rose Café' yn gweini bwyd, diodydd a phrydau poeth ac oer ac mae ar agor rhwng 7am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener gyda chynnig arbennig am brydau bwyd – pryd a phwdin am £4 rhwng 12pm a 2pm. Dilynwch ef ar Facebook
|
Llyfrgell
|
Mae gwasanaeth Archebu a Chasglu'r Llyfrgelloedd ar gael yn y Ganolfan:
Diwrnod yr wythnos
|
Amser
|
Dydd Llun
|
9.00am–5.00pm
|
Dydd Mawrth
|
9.00am–6:30pm
|
Dydd Mercher
|
9:00 - 1:00pm AR GAU PM
|
Dydd Iau
|
AR GAU
|
Dydd Gwener
|
9.00am–6:00pm
|
Dydd Sadwrn
|
9.00am–1:00pm
|
|
Gwasanaeth IBobUn y Cyngor
|
I wneud cais am Ostyngiad Treth y Cyngor, Budd-dal Tai, Bathodyn Glas neu Docyn Bws am Ddim, gwnewch apwyntiad gydag un o'n hymgynghorwyr yn www.rctcbc.gov.uk/iBobUn
|
Ystafelloedd i'r cyhoedd eu defnyddio ac Ystafelloedd Hyfforddi
|
Mae grwpiau cymunedol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a sefydliadau di-elw yn cael defnyddio'r ystafelloedd cyfarfod a'r ystafelloedd hyfforddi am ddim. Mae modd i sefydliadau masnachol logi'r ystafell am gyfradd resymol. Am fanylion pellach neu i gadw ystafell, ffoniwch ni ar 01443 570016 neu e-bostio:Llyfrgell.Aberpennar@rhondda-cynon-taf.gov.uk
|
Cydlynydd Cymunedol
|
Vicky Hughes - Victoria.L.Hughes@rctcbc.gov.uk
|
Cyfrifiaduron i'r Cyhoedd
|
Os ydych chi'n aelod o'r llyfrgell cewch chi ddefnyddio'r cyfrifiaduron mynediad cyhoeddus am ddim yn unrhyw un o lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf. Edrych ar fanylion pellach ar raglenni PC a sut i gadw lle.
|
Wi-fi am ddim
|
Bydd cyfrinair Wifi yn cael ei arddangos yn y ganolfan.
|
Toiledau
|
Mae gan y Ganolfan doiledau i ddynion a menywod, yn ogystal â chyfleuster newid babanod, gwely newid trydanol addasadwy a theclyn codi Oxford.
|
Gwasanaethau
Services
|
Addysg yn y gymuned, diwylliant a'r celfyddydau
|
Bydd amrywiaeth o ddosbarthiadau dysgu cymunedol yn ogystal â chynlluniau celfyddydol a diwylliannol yn cael eu cynnig yn y ganolfan. Bydd y rhain yn cael eu hysbysebu yn y Ganolfan a byddan nhw'n cael eu hyrwyddo ar y dudalen we yma'n fuan.
|
Cyngor a chymorth cyflogaeth
|
Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn cynnig cefnogaeth i bawb yn Rhondda Cynon Taf sy'n chwilio am waith, hyfforddiant neu gyfle i wirfoddoli.
|
Man Talu Lleol
|
Mae modd defnyddio'r man talu yma i dalu am ystod o wasanaethau'r cyngor, gan gynnwys biliau treth y Cyngor, cyfraddau busnes a mwy.
|
Canolfan Cymuned De Cynon
Stryd Rhydychen,
Aberpennar
CF45 3HD
Rhif Ffôn: 07747 485757
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n cael ei gynnig yn y ganolfan, ewch i'w tudalen Facebook www.facebook.com/CanolfanPennar