Mae'r Cyngor yn parhau i roi cymorth i drigolion sy'n agored i niwed, a hynny wedi'i gydlynu o 7 Canolfan Cydnerthedd y Gymuned gyda chymorth Staff y Cyngor, Gwirfoddolwyr Cydnerthedd y Gymuned a phartneriaid y 3ydd Sector a'r gymuned.
Cefnogaeth a Chymorth
Mae modd i chi ofyn am gefnogaeth ar unrhyw adeg os byddwch chi ei angen os DOES DIM gyda chi gefnogaeth gan deulu, ffrindiau neu'ch cymuned.
Mae modd i Garfanau eich Hwb Cydnerthedd Cymunedol lleol neu Wirfoddolwyr Interlink neu RhCT eich helpu chi â'r canlynol:
Gofyn am gymorth
Mae modd i chi ofyn am gymorth trwy drwy lenwi'r ffurflen ar-lein
Bydd y Cyngor yn rhannu eich manylion gyda'r adran berthnasol gan ddibynnu ar eich anghenion. Weithiau, efallai y bydd rhaid i ni rannu eich manylion â sefydliadau allanol os does dim modd i ni ddarparu'r cymorth rydych chi wedi gofyn amdano.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut mae'r Cyngor yn prosesu a gwarchod eich gwybodaeth, darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd. Dilynwch y ddolen isod i fwrw golwg arno: www.rctcbc.gov.uk/diogeludata.
Ymgyrch Changing Places
Os ydych chi, aelod o'r teulu neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn gofyn am ddefnyddio lle newidiol, cliciwch ar y ddolen isod i wefan Newid lle lle byddwch chi'n dod o hyd i fanylion y rhai sydd ar gael yn RhCT, ochr yn ochr â chyfleusterau tebyg eraill ledled y DU .http://www.changing-places.org/
Profi, Olrhain, Diogelu
Os ydych chi wedi cael eich cynghori i hunanynysu gan y garfan 'Profi, Olrhain a Diogelu'
Mae cyngor ac arweiniad ychwanegol ar gael ar-lein.
Gall trigolion sydd wedi cael eu cynghori i hunanynysu gan y garfan Profi, Olrhain, Diogelu, ac sydd HEB rwydwaith cymorth hefyd ofyn am gymorth yma