Beth yw'r Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol?
Cafodd RhCT Gyda'n Gilydd ei lansio yn 2015 a dyma ddull arloesol y Cyngor o ymgysylltu â'i drigolion a'i gymunedau i archwilio sut mae modd iddyn nhw weithio gyda'i gilydd i ddatblygu modelau cyflenwi cynaliadwy amgen sy'n cynnal gwasanaethau a chyfleusterau efallai na fydd y Cyngor yn gallu cyflawni ar ei ben ei hun mwyach.
Er mwyn sicrhau bod modd i Drosglwyddiadau Asedau Cymunedol (TAC) gyflawni gofynion strategol a gofynion gwasanaethau cymuned lleol y Cyngor (a'i bartneriaid), nod y gronfa yw meithrin cymunedau cydnerth trwy weithio ar y cyd â phob sector yn Rhondda Cynon Taf. Dim ond ceisiadau am TAC sy'n cyfrannu tuag at anghenion a blaenoriaethau datblygu'r Cyngor a Rhwydweithiau'r Gymdogaeth byddwn ni’n bwrw ymlaen â nhw.
Bydd y Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn bennaf ar gyfer ceisiadau sy'n ymwneud â throsglwyddiadau asedau cymunedol cynaliadwy o adeiladau'r Cyngor i bartneriaid cymunedol drwy brydles, trwydded neu Denantiaeth wrth Ewyllys. Mae modd hefyd ystyried grwpiau sydd efallai angen cymorth i gynnal tenantiaethau lle mae'r holl opsiynau ariannu eraill wedi'u disbyddu.
Bydd angen i bob prosiect gydweddu ag un neu fwy o'r amcanion a nodwyd yng Nghynllun Corfforaethol Rhondda Cynon Taf. Mae'r rhain fel a ganlyn:
- Sicrhau Pobl: yn annibynnol, yn iach ac yn llwyddiannus;
- o Creu Lleoedd: lle mae pobl yn falch o fyw, gweithio a chwarae;
- o Galluogi Ffyniant: creu'r cyfle i bobl a busnesau fod; yn arloesol; yn entrepreneuraidd; a chyflawni eu potensial a ffynnu
Pwy sy'n gymwys i wneud cais?
Mae modd ystyried ceisiadau gan grwpiau gwirfoddol a chymunedol ddim er elw, mentrau cymdeithasol, Cynghorau Cymuned a Thref, ac ar sail achosion unigol, darparwyr gofal plant masnachol.
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth fod ganddyn nhw ddogfen Gyfansoddiad/Lywodraethu a chyfrif banc yn enw'r sefydliad gydag o leiaf 2 lofnodwr gwahanol.
Am beth ydw i'n cael gwneud cais?
Mae modd defnyddio'r Gronfa ar gyfer gweithgareddau sy'n gysylltiedig â throsglwyddo asedau cymunedol eiddo neu dir y Cyngor i berchnogaeth gymunedol trwy gytundeb tenantiaeth, h.y. prydles, trwydded neu Denantiaeth wrth Ewyllys. Dyma enghreifftiau o'r mathau o gostau a allai gael eu cefnogi:
Cyfalaf
- Prynu offer
- Adnewyddu
- Addurno
- Gwaith adeiladu
- Costau Cyfreithiol
- Yswiriant
- Arolygon Adeiladau/Tir/Cyflwr
- Ymgymryd â hyfforddiant
Refeniw
Am faint o arian mae modd i mi wneud cais?
Fel arfer, uchafswm cyfraniad y grant fydd £10,000. Byddwn ni'n asesu cynigion ar drefn y cyntaf i'r felin, yn ddibynnol ar gymhwysedd ac ar y cyllid sydd ar gael.
Sut y bydd y grant yn cael ei dalu i chi?
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch chi'n derbyn llythyr/e-bost gyda manylion y grant a'i delerau ac amodau. Os ydych chi'n dymuno derbyn y grant bydd angen i chi lofnodi a dychwelyd y telerau ac amodau.
Fel arfer, dim ond ar ôl cyflwyno anfonebau a thystiolaeth ffotograffig (lle y bo'n berthnasol) ar ddiwedd y prosiect caiff taliadau eu gwneud, a hynny i'r cyfrif banc sydd wedi'i nodi yn eich cais.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol a'r cymorth sydd ar gael, ffoniwch Garfan RhCT Gyda'n Gilydd ar 01443 425368 neu e-bostiwch rhctgydangilydd@rctcbc.gov.uk, neu cysylltwch ag aelod o'n carfan.
Os ydych chi am ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â'r Garfan Adfywio ar 01443 281124 neu e-bostiwch
adfywio@rctcbc.gov.uk