Skip to main content

Cronfa Rhwydwaith Cymdogaeth

Mae grantiau ar gael i grwpiau cymunedol sy'n rhan o'r Rhwydwaith Cymdogaeth.

Nodwch: Mae'r Gronfa Rhwydwaith Cymdogaeth bellach ar gau. Mae’n bosibl y bydd yn ailagor yn ddiweddarach yn y flwyddyn os bydd rhagor o arian ar gael.

Am ragor o wybodaeth am waith y Rhwydwaith Cymdogaeth yn eich ardal chi, cysylltwch â'ch Cydlynydd Cymunedol lleol.

Dyma rai enghreifftiau:

  • Gweithgareddau ar gyfer grwpiau penodol o drigolion yn y gymuned (er enghraifft trigolion dros 50 oed, gweithgareddau sy'n addas i drigolion sydd â Dementia, yn addas i drigolion sydd ag Awtistiaeth)
  • Costau/adnoddau ar gyfer prosiectau
  • Darnau bach o offer
  • Llogi cyfleusterau
  • Gweithgareddau er mwyn lleddfu unigrwydd ac unigedd
  • Achlysuron

Dydy'r rhestr yma ddim yn gynhwysfawr. Gofynnwch i aelod o'r garfan os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi.

Mae grantiau o hyd at £500 ar gael.

  • Byddai croeso mawr i geisiadau gan grwpiau cymunedol. Bydd yr ail rownd yn cau ddiwedd mis Chwefror 2022.
  • Yn dibynnu ar y galw, efallai y bydd arian pellach ar gael. Caiff ceisiadau lluosog gan sefydliadau/grwpiau eu hystyried ar gyfer yr arian yma.
  • Rhaid i'r holl grantiau sy'n cael eu dyfarnu gael eu gwario'n llawn erbyn 31Mawrth 2022.
  • Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am ganlyniad ei gais wrth i ni geisio sicrhau tegwch ledled y sir, yn ddaearyddol.
  • Mae pob grant yn destun telerau ac amodau a gofynion adrodd 
Os oes gyda chi syniad am brosiect, gallwch chi drafod gyda'ch Cydlynydd Rhwydwaith Cymdogaeth a Chymuned. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01443 425368 neu ebostiwch rhctgydangilydd@rctcbc.gov.uk