Mae'r cyfnod cyflwyno cais ar gyfer Rownd 2 bellach wedi dod i ben. Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar ôl 5:30pm ddydd Gwener 12 Mai 2023 ddim yn cael eu hystyried.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn ganolog i agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Bydd y gronfa yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiadau lleol erbyn mis Mawrth 2025. Diben y gronfa yw annog trigolion i ymfalchïo yn eu cymunedau lleol a chynnig cyfleoedd bywyd gwell i bobl ledled y DU trwy fuddsoddi mewn cymunedau a chefnogi busnesau, pobl a sgiliau.
Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi ymrwymiad ehangach y Llywodraeth i ffyniant bro ledled y DU trwy gyfrannu at bob un o'r amcanion ffyniant bro:
- Rhoi hwb i gynhyrchiant, tâl, swyddi a safonau byw trwy ehangu'r sector breifat, yn enwedig yn y llefydd sydd angen y cymorth yma
- Creu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yn y llefydd ble mae diffygion o ran hyn
- Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, yn enwedig yn y llefydd ble maen nhw wedi mynd ar goll
- Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig yn y llefydd sydd â diffyg cymorth lleol
Am ragor o wybodaeth bwriwch olwg yma: https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus
Yn Rhondda Cynon Taf
Mae Grant Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn gyfle i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fuddsoddi mewn adeiladau ac isadeiledd i adfer cymunedau a pherthnasau, a gosod seiliau ar gyfer datblygiadau cymunedol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol yn ein cymunedau.
Mae’r Cyngor wedi cyflwyno Grant Cymunedol er mwyn cyflawni'r canlynol:
- Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, yn enwedig yn y llefydd ble maen nhw wedi mynd ar goll
Bydd £4.3 miliwn yn cael ei fuddsoddi'n lleol dros gyfnod o dair blynedd, gan ddod i ben ym mis Mawrth 2025.
Yn ystod Rownd 1 (y cyfnod ariannol 2022 i 2023), roedd y Gronfa Ffyniant Gyffredin – Grant Cymunedol Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyfrannu mwy na £600,000 i brosiectau cymunedol lleol a oedd wedi cael eu cymeradwyo yn rhan o'r trothwy lefel is.
Mae'r cyfnod cyflwyno cais ar gyfer Rownd 2 bellach wedi dod i ben. Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar ôl 5pm ddydd Gwener 12 Mai 2023 ddim yn cael eu hystyried.